Newyddion S4C

Cau dwy ysgol ar Ynys Môn dros dro oherwydd concrit diffygiol

04/09/2023

Cau dwy ysgol ar Ynys Môn dros dro oherwydd concrit diffygiol

Mae dwy ysgol ar Ynys Môn wedi eu cau dros dro oherwydd concrit diffygiol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y concrit wedi ei ddarganfod yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy ac Ysgol Uwchradd Caergybi. 

Mewn datganiad dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles mai dim ond dwy ysgol yng Nghymru oedd wedi’u hadnabod fel rhai oedd yn cynnwys y concrit awyredig awtoclaf cyfnerthedig (RAAC) sydd yn peri pryder.

Roedd disgyblion i fod i ddychwelyd i Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy ac Ysgol Uwchradd Caergybi ddydd Mawrth.

Dyma'r ysgolion cyntaf yng Nghymru i gael eu nodi fel rhai sydd â choncrit diffygiol RAAC.

Mae eisoes wedi arwain at gau dros gant a hanner o ysgolion naill ai yn rhannol neu'n gyfangwbwl yn Lloegr.

Ond mae gwaith yn parhau i asesu maint y mater ar draws Cymru, meddai Llywodraeth Cymru, a mae disgwyl y canlyniadau ymhen pythefnos.

Mae Gweindog Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles yn feirniadol o Lywodraeth y DU ac yn dadlau na chafodd wybod am y datblygiadau diweddaraf mewn da bryd. 

Dywedodd Mr Jeremy Miles: "Ni 'di bod yn galw am weld y dystiolaeth 'ma Llywodraeth San Steffan yn dweud eu bod nhw’n gweithredu ar ei sail e,  a neithiwr yn unig rhannwyd gyda ni elfen ohono gyda llaw.

"A ma' hyn wedi bod yn nwylo’r Llywodraeth yn San Steffan am gyfnod hir iawn.

"Nid amser am wleidydda rhwng llywodraethau yw hyn nawr - amser i gydweithio," meddai. 

Dywedodd Prif Weinidog y DU Rishi Sunak:  "Un o'r pethau cyntaf wnes i fel canghellor, fy adolygiad gwariant cyntaf yn 2020 oedd cyhoeddi cynllun 10 mlynedd i ail-adeiladu 500 o ysgolion sy'n cyfateb i tua 50 o ysgolion y flwyddyn.

"Mae hyn yn cyfateb i 50 i 60 o ysgolion yn cael eu hadnewyddu neu eu hailadeiladu bob blwyddyn. 

"Os edrychwn ni dros y ddegawd diwethaf, mae hynny'n cyd-fynd â'r hyn rydyn ni wedi'i wneud."

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Ein prif flaenoriaeth yw diogelwch disgyblion a staff. Ers i ni ddod yn ymwybodol o'r datblygiadau hyn, rydym wedi bod yn gweithio ar frys gydag Awdurdodau Lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau y gall disgyblion a staff fynd yn ôl i'r ysgol yn ddiogel.

"Rhannwyd yr wybodaeth ar unwaith gyda Chyngor Sir Ynys Môn i'w cefnogi wrth wneud penderfyniadau.

"Rydym yn gwneud y penderfyniadau hyn gyda'n gilydd i gadw staff a disgyblion yn ddiogel. Mae Cyngor Ynys Môn a'r ysgolion yn gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau'r effaith ar ddisgyblion. Os bydd unrhyw un o'r camau hyn yn effeithio arnoch, byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan eich ysgol."

'Mwy o wybodaeth'

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi dweud bod RAAC bellach y tu hwnt i'w oes ac y gallai "gwympo heb fawr o rybudd, os o gwbl".

Mae’r concrid RAAC yn fath ysgafn o goncrid a ddefnyddiwyd yn y sector adeiladu er mwyn adeiladu ysgolion, colegau ac adeiladau eraill rhwng y 1950au tan ganol y 1990au.

Ganol mis Awst fe wnaeth Newyddion S4C ddatgelu bod rhan o Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, Sir Benfro, wedi gorfod cau ar ôl i Fwrdd Iechyd Hywel Dda dderbyn rhybudd gan Lywodraeth Cymru am gyflwr planciau to concrit mewn ysbytai.

Mewn llythyr at rieni, dywedodd prifathro Ysgol David Hughes mai'r gobaith oedd y byddai'r ysgol ar agor yn rhannol neu'n llawn erbyn dydd Iau, tra bod archwiliadau diogelwch pellach yn cael eu cynnal.

“Gan ystyried y cyngor a roddwyd i leoliadau addysg Lloegr gan Lywodraeth y DU ar 31 Awst, ac yn dilyn trafodaethau brys â'r Cyngor Sir sydd hefyd wed bod mewn cyswllt â Llywodraeth Cymru, mae wedi ei gytuno i gau Ysgol David Hughes dros dro, am ddau ddiwrnod yn y lle cyntaf, fel y gellir cynnal archwiliadau diogelwch pellach a bod cynllunio amgen yn gallu digwydd,” meddai’r llythyr.

Mae llythyr i rieni ysgol Caergybi, yn dweud y bydd yr ysgol yn “rhannu mwy o wybodaeth dros y dyddiau yma o ran trefniadau tymor byr a chanolig.”.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Llinos Medi wrth gyfeirio at y newid i'r canllawiau: "Redden nhw [Llywodraeth y DU] yn gofyn os oedd 'nabresenoldeb RAAC yn yr ysgolion.

"Fe wnaethon ni fedri enwi’r ddwy ysgol ond gan bod y canllawiau bellach ‘di newid o’r diwrnod olaf mis Awst mae ein ymateb ni yn wahanol.

"Da ni wedi bod yn cael cwminau allanol, allan yn flynyddol i checio’r safleoedd yma ac wedi bod yn adrodd yn ôl bod na ddim newid.

"Ond yn amlwg rwna ma’r gôl posts 'di newid diwedd mis Awst

Dywedodd hefyd ei bod hi'n "sefyllfa sy’n newid yn barhaus ac yn fater cenedlaethol".

"Rydym yn gwerthfawrogi y bydd hyn yn siomedig i'r holl staff a disgyblion," meddai.

"Fodd bynnag, eu diogelwch nhw yw ein prif flaenoriaeth. Rydym wrthi’n rhoi cynlluniau yn eu lle ar gyfer ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi er mwyn lleihau’r aflonyddwch i addysg y plant.

“Rydym yn cydweithio’n agos â Phenaethiaid a staff yn yr ysgolion sydd wedi eu heffeithio. Bydd yr ysgolion yn darparu diweddariadau pellach i rieni/gwarcheidwaid pobl ifanc. Eto, ein prif flaenoriaeth yw sicrhau diogelwch ein holl staff a’n pobl ifanc.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.