Newyddion S4C

Cau rhannau o ysbyty yng ngorllewin Cymru oherwydd pryderon am ddiogelwch y nenfwd

13/08/2023
Llwynhelyg

Mae rhannau o ysbyty yng ngorllewin Cymru wedi gorfod cau oherwydd pryderon a ydi darnau o nenfwd yr adeilad yn saff.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod nhw wedi gweithredu ar ôl derbyn rhybudd gan Lywodraeth Cymru am gyflwr planciau to concrit mewn ysbytai.

Mae’r planciau concrid yn y nenfwd ar safle ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, Sir Benfro.

Mae rhai cleifion a staff eisoes wedi eu symud i Ysbyty De Sir Benfro yn Noc Penfro o ganlyniad i’r gwaith.

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrth Newyddion S4C bod rhai ardaloedd o Ysbyty Llwynhelyg eu cau dros dro.

"Cafodd cleifion eu symud i leoliadau eraill, gan gynnwys Ysbyty De Sir Benfro, tra bod gwaith arolygu ac adfer yn cael ei wneud," meddai.

“Does dim penderfyniad wedi’i wneud eto ynglŷn â chau pellach ac rydym yn monitro’r sefyllfa’n agos iawn. Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i liniaru’r sefyllfa a sicrhau bod cyn lleied â phosibl o darfu ar staff, cleifion a’r cyhoedd.”

Mae’r un broblem yn effeithio i raddfa lai ar Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, lle mae un ystafell wedi ei heffeithio, meddai'r bwrdd iechyd.

Mae propiau eisoes wedi eu gosod yn Ysbyty Llwynhelyg a dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda y bydd yn cymryd misoedd i gwblhau’r gwaith.

Mae hynny’n cynnwys archwilio y planciau concrid “planc wrth blanc,” medden nhw.

Lle nodir problemau strwythurol, mae graddau'r gwaith adfer hefyd yn cael ei asesu,” meddai llefarydd.

“Efallai y bydd mwy o fesurau lliniaru lleol ar waith, gan gynnwys propiau strwythurol a chau ardaloedd yr effeithir arnynt dros dro.

‘Trwsio’

Dywedodd Andrew Carruthers eu bod yn “rhoi ystod o fesurau ar waith i reoli’r risg”.

“Ym mis Mai 2023 fe wnaethom benodi cwmni peirianneg strwythurol i gynnal arolygon dwys pellach o’r ardaloedd dan sylw,” meddai.

Dywedodd fod y cwmni yn darparu adroddiad llawn ar bob planc ‘concrit awyrog awtoclaf’ yn unigol.

Mae’n ddeunydd cyffredin a ddefnyddiwyd mewn gwaith adeiladu rhwng y 1960au a'r 1990au, ac mae pryderon wedi codi am ddefnydd y deunydd mewn ysbytai ac ysgolion ledled y Deyrnas Unedig.

“Bydd gwaith arolygu a thrwsio yn cael effaith ar ardaloedd clinigol a wardiau’r ysbyty felly mae’r holl drefniadau ar gyfer gwaith atgyweirio yn cael eu cefnogi gan reolwyr clinigol yr ysbyty,” meddai Andrew Carruthers.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.