Covid-19: Annog trigolion ardal Llandudno i gymryd prawf
Mae awdurdodau iechyd wedi galw ar drigolion Cyffordd Llandudno, Bae Penrhyn a Llandudno i gymryd prawf Covid-19, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n profi symptomau’r feirws.
Daw’r alwad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Sir Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cynnydd yn y nifer o achosion o amrywiolyn Delta a gafodd ei enwi'n wreiddiol fel amrywiolyn India.
Mae 35 achos o’r amrywiolyn bellach wedi eu cadarnhau neu wedi eu hamau yn yr ardal dros benwythnos Gŵyl y Banc.
Hyd yma, mae 58 achos o’r amrywiolyn wedi eu cadarnhau ar draws Cymru.
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu fod yr amrywiolyn hwn yn trosglwyddo’n haws nag amrywiolyn Alffa a gafodd ei adnabod yn gyntaf yng Nghaint.
Ond, mae’r dystiolaeth hefyd wedi dangos fod brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn effeithiol wrth amddiffyn rhag effeithiau’r feirws.
Mae’r cyngor diweddaraf wedi dod ddyddiau’n unig wedi cyngor i drigolion yr ardal fod ar eu gwyliadwriaeth wedi cynnydd yn y nifer o achosion o’r feirws.
Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylai pobl gadw at y canllawiau a chadw o leiaf dau fetr rhag pobl, golchi dwylo’n gyson a gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen.
Mae’r corff hefyd yn annog pobl i gymryd y brechlyn pan mae’r cynnig yn dod ac i hunan-ynysu a chael prawf os ydyn nhw neu aelod o’u haelwyd yn datblygu symptomau.
Dywedodd Richard Firth, Ymgynghorydd Gwarchod Iechyd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae hyn yn sefyllfa sy’n symud yn gyflym. Byddwch yn wyliadwrus os gwelwch yn dda ar gyfer symptomau’r Coronafeirws, a threfnwch brawf nawr”.
Mae Mr Firth yn dweud fod hyn yn atgoffa pobl i barhau’n wyliadwrus er i’r nifer o achosion o’r feirws ar draws Cymru barhau’n isel.
“Cyflymder yw’r peth pwysig. Y cyflymaf rydym yn ymateb y gorau fydd hi, felly os gwelwch yn dda, dewch yn eich blaen i gael eich profi cyn gynted â phosib”, ychwanegodd.
Mae unrhyw un dan 39 oed hefyd yn cael eu hannog i gael eu brechu yn y Ganolfan Frechu Dorfol yn Venue Cymru, Llandudno, ddydd Mercher a dydd Iau.