Rhybudd am amrywiolyn Covid-19 yn ardal Llandudno
Mae cyrff iechyd cyhoeddus yn rhybuddio pobl yn ardal Cyffordd Llandudno, Bae Penrhyn a Llandudno i fod ar eu gwyliadwriaeth yn dilyn nifer o achosion o amrywiolyn Covid-19 yn yr ardal.
Daw'r alwad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Conwy a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dilyn cadarnhad o glwstwr o 18 o achosion o'r amrywiolyn gafodd ei ddarganfod yn gyntaf yn India, sef amrywiolyn VOC-21APR-02.
Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng yr 18 achos medd yr awdurdodau, ac fe fydd uned brofi symudol yn cael ei sefydlu yng Nghanolfan Fusnes Conwy, Cyffordd Llandudno, er mwyn i aelodau'r cyhoedd gael eu profi.
Bydd y ganolfan ar agor bob dydd rhwng 08:00 a 13:00 a 14:00 a 20:00. Nid oes angen apwyntiad cyn mynd yno am brawf.
Dywedodd Richard Frith o Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd hefyd yn Gadeirydd ar y Tîm Rheoli Digwyddiad Aml-asiantaeth fod yr achosion newydd o'r amrywiolyn yn yr ardal dan sylw "yn ein hatgoffa i beidio a llaesu dwylo er mor isel yw nifer yr achosion.
"Byddwch yn wyliadwrus am symptomau coronafeirws ac ewch am brawf nawr. os yw staff olrhain cyswllt yn cysylltu gyda chi, helpwch i ddiogelu ein cymunedau drwy fod yn onest gyda nhw am eich symudiadau a chydymffurfio gyda'u cyfarwyddiadau."
"Gorau po gyntaf y gwnawn weithredu. Dewch i gael eich profi, hyd yn oed os yw eich symptomau yn rhai ysgafn. Y mwyaf o bobl fydd yn dod i'w profi, y mwyaf o achosion byddwn yn eu darganfod," ychwanegodd.
Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu fod amrywiolyn VOC-21APR-02 yr un mor hawdd ag amrywiolyn Caint i'w ddal, ond ei fod hefyd yn lledaenu'n haws. Mae brechiadau Pfizer ag AstraZeneca yn effeithiol yn erbyn yr amrywiolyn yn dilyn dau ddos.