Cynnal seremonïau byw yn 'eisin ar y gacen' i’r Urdd

Cynnal seremonïau byw yn 'eisin ar y gacen' i’r Urdd
Ar ôl cyfnod anodd mae’r gallu i gynnal seremonïau byw yn Llangrannog eleni yn "eisin ar y gacen", yn ôl Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd.
"'Da ni wedi cyd-weithio hefo Cyngor Ceredigion, yr eisin ar y gacen bo ni'n gallu neud un elfen byw yma yn Llangrannog a'r seremonïau fydd hynny," eglurodd Sian Eirian wrth raglen Newyddion S4C.
Prif Ddysgwr yr Eisteddfod oedd y wobr ddydd Llun, a’r tri chystadleuydd gorau a’u teuluoedd yn cael dod i’r gwersyll ar gyfer y seremoni.
Yr enillydd oedd Phoebe Skinner o Gaerdydd.
Er llwyddiant yr Eisteddfodau rhithiol y bwriad yw parhau ar faes traddodiadol yn Sir Ddinbych y flwyddyn nesaf.
"Be sy'n bwysig ydy bo ni'n dysgu o wersi Eisteddfod T, yn gwrando ar lais plant a phobl ifanc, gweld be sy'n gweithio.
"Wrth gwrs ma'r traddodiadol yn holl bwysig ag mi fydd o'n rhan annatod o'r Eisteddfod, ond mi fyddwn ni fel bwrdd yr Eisteddfod a'r celfyddydau yn eistedd i lawr i weld beth allwn ni ymgorffori i fewn i Eisteddfod y canmlwyddiant yn 2022."
Ychwanegodd Sian Eirian ei bod hi'n obeithiol bydd y Blaid Lafur yn anrhydeddu'r addewid i sicrhau mynediad am ddim i'r Eisteddfod yn Sir Ddinbych yn 2022.