Newyddion S4C

Cyhoeddi Prif Ddysgwr Eisteddfod T 2021

31/05/2021
Phoebe

Phoebe Skinner, 18 oed o Gaerdydd yw Prif Ddysgwr Eisteddfod T 2021.

Cafodd yr enillydd ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig oedd yn cael ei darlledu’n fyw o Wersyll yr Urdd Llangrannog ddydd Llun.

Yn ystod y seremoni, dywedodd beirniad y gystadleuaeth, Jason Mohammad, sydd hefyd o Gaerdydd, ei fod am ddiolch i bawb a’i helpodd i ddysgu’r Gymraeg ac mai “braint” oedd cael beirniadu cystadleuaeth Prif Ddysgwr Eisteddfod T eleni.

Dywedodd Jason Mohammad: “Fel un sydd wedi dysgu’r iaith, roedd yn fraint i gael yr alwad gan yr Urdd i feirniadu cystadleuaeth y Prif Ddysgwr. Mae yna lot o bobl yn synnu at y ffaith bod Jason Mohammad o’r byd teledu a radio yn gallu siarad Cymraeg... Felly ar y llwyfan heddiw, dw i eisiau dweud diolch o galon i bawb sydd wedi fy helpu fi!"

Image
Eisteddfod T
Jason Mohammad yn traddodi'r feirniadaeth. Llun: S4C

“Rwy’n hapus i ddweud fy mod i’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd. Mae ein plant ni yn siarad Cymraeg ac weithiau dwi’n defnyddio’r iaith ar Radio 2... Mae’r rheswm dwi’n siarad am beth dwi’n gwneud efo’r iaith yn syml iawn: mae’n holl bwysig i ddyfodol yr iaith a’r wlad ein bod ni’n clywed straeon fel hyn. Pobl sy ’di gweithio yn galed iawn yn yr ysgol, coleg ac yn y brifysgol i ddysgu’r iaith ac yn bwysicach na hynny – yn defnyddio’r iaith bob dydd. Mae’r bobl anhygoel sy gyda ni heddiw yn rhan o’r Gymru newydd," ychwanegodd.

Roedd rhaid i’r cystadleuwyr greu cyflwyniad ar ffurf fideo fyddai’n “ysbrydoli cynulleidfa”, ac roedd gwylio’r holl gynnwys yn brofiad “hollol ryfeddol” yn ôl y beirniad.

“Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cystadlu eleni. Roedd y fideos yn llawn o angerdd am yr iaith Gymraeg... gyda geirfa ardderchog, acenion hyfryd. A beth oedd yn bwysig iawn hefyd — roedden nhw’n dod o ardaloedd ar draws y byd: o Gaerdydd i Batagonia!” dywedodd Jason Mohammad.

“Roedd gan Phoebe angerdd a gweledigaeth ar gyfer yr iaith... Roedd ei chariad at y Gymraeg yn amlwg. Mae hi’n dangos yn glir pam y dylech chi nid yn unig wneud y Gymraeg fel pwnc yn yr ysgol, ond hefyd ei defnyddio hi yn eich bywyd bob dydd.”

‘Profiad anhygoel’

Mae Phoebe Skinner newydd sefyll ei Lefelau A yn Ysgol Uwchradd Caerdydd ac mae hi’n bwriadu mynd i'r brifysgol i astudio Cerddoriaeth ym mis Medi. 

Dywedodd Phoebe: “Mwynheais ein gwersi Cymraeg yn yr ysgol yn fawr, a dw i wrth fy modd yn gweithio mewn siop lyfrau Cymraeg. Dw i’n gobeithio y bydd fy ngwaith buddugol yn annog pobl ifanc eraill i astudio Cymraeg yn y chweched dosbarth; mae’n brofiad anhygoel.”

Yn ail yn y gystadleuaeth roedd Kiera Jones o Ferthyr Tudful a Matthew Minshull o Henllan, Sir Ddinbych yn drydydd.

Dilynwch holl gystadlaethau Eisteddfod T ar S4C drwy gydol yr wythnos, neu gwyliwch ar alw ar S4C Clic neu BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.