Cyhuddo gyrrwr Anthony Joshua wedi gwrthdrawiad a laddodd ei ffrindiau

Latif Ayodele, Anthony Joshua a Sina Ghami
Latif Ayodele, Anthony Joshua a Sina Ghami

Mae gyrrwr y bocsiwr Anthony Joshua wedi'i gyhuddo ar ôl i wrthdrawiad yn Nigeria anafu'r bocsiwr a lladd dau o'i ffrindiau, meddai'r heddlu.

Cafodd Adeniyi Mobolaji Kayode, 46, ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a gyrru heb drwydded yn Llys Ynadon Sagamu ddydd Gwener.

Roedd Joshua yn teithio mewn Lexus SUV ddydd Llun a darodd yn erbyn cerbyd a oedd wedi parcio ar brif ffordd yn nhalaith Ogun, ger Lagos.

Roedd y ddau ddyn a fu farw, sef Latif Ayodele a Sina Ghami, yn ffrindiau agos iddo ac yn aelodau o dîm hyfforddi'r bocsiwr.

Cafodd Joshua ei achub o weddillion y cerbyd a'i gludo i'r ysbyty gydag anafiadau, cyn cael ei ryddhau ddydd Mercher.

Mae Eddie Hearn, sydd wedi bod yn hyrwyddwr i Joshua ers dros ddegawd, wedi rhoi teyrnged i aelodau'r tîm.

"Gorffwyswch mewn heddwch Latz a Sina," meddai mewn datganiad ar Instagram.

"Bydd colled fawr ar ôl eich egni a'ch teyrngarwch ymhlith nifer o rinweddau gwych eraill. 

"Rwy'n gweddïo am nerth ac arweiniad i'w holl deulu, ffrindiau ac wrth gwrs AJ yn ystod yr amser anodd iawn hwn."

Mae'r achos llys wedi'i ohirio tan 20 Ionawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.