Euro 2020: Dau gyn-ddisgybl Ysgol Ystalyfera yng ngharfan Cymru

Euro 2020: Dau gyn-ddisgybl Ysgol Ystalyfera yng ngharfan Cymru
Mae dau gyn-ddisgybl o Ysgol Ystalyfera wedi eu dewis yng ngharfan Cymru ar gyfer Euro 2020.
Cafodd y garfan ei chyhoeddi nos Sul.
Yn dilyn ôl troed Ben Davies, sydd wedi ennill 50 a mwy o gapiau dros Gymru, mae Rubin Colwill o glwb pêl-droed Caerdydd.
Mae'r chwaraewr canol cae ifanc yn cyfaddef ei hun ei fod o wedi ei synnu.
"Smo fe'n teimlo'n real i dweud y gwir."
"O'n ni di cael 'meeting' a odd enw fi di dod lan ar y bwrdd a o'n i ffili credu fe."
Yn ôl Davies mae pawb yn y garfan yn "ymladd am i lle yn y tîm."
"Dwi'n hapus iawn bod Rubin 'ma, ma' fe di neud yn grêt yn ymarfer beth i ni di weld.
"O'n i'm yn gwybod nath e fynd i Ystalyfera, ond pan nath e dweud ma' fe'n eitha' neis i clywed bod rhywun arall wedi dod o'r ysgol, ma' fe'n grêt."