Newyddion S4C

Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Euro 2020

30/05/2021
Huw Evans Agency

Mae rheolwr dros-dro Cymru, Robert Page wedi cyhoeddi'r garfan o 26 chwaraewr fydd yn cynrychioli’r tîm pêl-droed yn Euro 2020. 

Bydd Cymru yn chwarae mewn gemau cyfeillgar yn erbyn Ffrainc nos Fercher (2 Mehefin) ac Albania nos Sadwrn (5 Mehefin).

Yna bydden nhw'n herio'r Swistir (12 Mehefin) a Thwrci (16 Mehefin) yn Baku, a’r Eidal (20 Mehefin) yn Rhufain yng ngrwpiau’r twrnament a oedd i fod i gael ei gynnal y llynedd.

Carfan Euro 2020 Cymru:

Aaron Ramsey, Wayne Hennessey, Ben Davies, Ethan Ampadu, Joe Rodon, Chris Mepham, Connor Roberts, Adam Davies, James Lawrence, Joe Allen, Matthew Smith, Joe Morrell, Harry Wilson, Kieffer Moore, Jonathan Williams, Neco Williams, David Brooks, Danny Ward, Dan James, Ben Cabango, Dylan Levitt, Tyler Roberts, Rubin Colwill, Chris Gunter, Gareth Bale a Rhys Norrington-Davies. 

Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.