Newyddion S4C

Cip olwg ar benawdau'r bore

26/05/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein hafan ar ddydd Mercher, 26 Mai, o Gymru a thu hwnt.

Pryder bod y diwydiant nos yn ‘cael ei anghofio’

Mae pryder bod y diwydiant nos yn cael ei “anghofio” wrth i Lywodraeth Cymru lacio cyfyngiadau Covid-19. Mae galwadau yn cael eu gwneud i’r llywodraeth gyhoeddi cynllun a dyddiad ailagor. Yn ôl y llywodraeth, bydd unrhyw benderfyniad i lacio cyfyngiadau yn ddibynnol ar y cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf.

Covid-19: Dominic Cummings i roi tystiolaeth i ASau - The Guardian

Mae disgwyl y bydd cyn-brif ymgynghorydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Dominic Cummings, ymddangos o flaen Aelodau Seneddol i gyflwyno tystiolaeth am gynlluniau'r llywodraeth i ymateb i'r pandemig ddydd Mercher. Mae Mr Cummings eisoes wedi honni nad oedd gan y Prif Weinidog "gynllun o ddifrif" i geisio amddiffyn pobl fwyaf bregus y Deyrnas Unedig rhag Covid-19.

Mesurau atal parcio Eryri yn achosi pryder - North Wales Live

Mae pobl wedi codi pryderon dros fesurau atal parcio ar hyd ffordd ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae cannoedd o gonau traffig wedi'u gosod ar ddwy ochr yr A5 yn Nyffryn Ogwen yn dilyn anhrefn parcio yno yn ystod yr haf y llynedd. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y mesurau wedi bod mewn lle ger Llyn Ogwen er mwyn atal parcio peryglus. 

Arolwg elusen yn datgelu argyfwng tai yng Nghymru - The National Cymru

Mae arolwg diweddaraf gan elusen Shelter Cymru wedi dangos mai pobl sy’n derbyn incwm isel sydd yn cael eu heffeithio waethaf gyda phroblemau tai. Yn ôl ymchwiliad yr elusen, pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, ag anableddau, neu'n aelod o'r gymuned LHDT sydd wedi'u heffeithio'n benodol.

Holl gemau Ewros 2020 i'w darlledu ar S4C - Golwg360

Fe fydd holl gemau tîm pêl-droed Cymru yn yr Ewros yn cael eu darlledu’n fyw ar S4C ac S4C Clic. Cyn i Gymru ddechrau eu hymgyrch yn y bencampwriaeth, bydd modd gwylio dwy gêm gyfeillgar ar S4C hefyd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.