Covid-19: Dominic Cummings yn rhoi tystiolaeth i ASau
26/05/2021
Mae cyn-brif ymgynghorydd Boris Johnson wedi honni nad oedd gan y Prif Weinidog "gynllun o ddifrif" i geisio amddiffyn pobl mwyaf bregus y Deyrnas Unedig rhag Covid-19.
Mae Dominic Cummings, a wnaeth adael ei swydd yn 10 Downing Street ym mis Tachwedd, yn ymddangos o flaen Aelodau Seneddol i gyflwyno tystiolaeth am gynlluniau'r llywodraeth i ymateb i’r pandemig ddydd Mercher.
Yn ôl The Guardian, mae Mr Cummings eisoes wedi beirniadu'r Prif Weinidog ar Twitter, gan ddweud ei fod wedi methu gwarchod pobl fregus mewn cartrefi gofal yn ystod y cyfnod.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: parliamentlive.tv