Mesurau atal parcio Eryri yn achosi pryder
26/05/2021
Mae pobl wedi codi pryderon dros fesurau atal parcio ar hyd ffordd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Yn ôl North Wales Live, mae cannoedd o gonau traffig wedi'u gosod ar ddwy ochr yr A5 yn Nyffryn Ogwen yn dilyn anhrefn parcio yno yn ystod yr haf y llynedd.
Ond, mae rhai pobl wedi dweud bod y mesurau yn rhoi diogelwch rhai gyrwyr ceir a cherddwyr mewn perygl yn yr ardal dan sylw.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y mesurau wedi bod mewn lle ger Llyn Ogwen er mwyn atal parcio peryglus.