Newyddion S4C

Pryder bod y diwydiant nos yn ‘cael ei anghofio’

26/05/2021

Pryder bod y diwydiant nos yn ‘cael ei anghofio’

Mae pryder bod y diwydiant nos yn cael ei “anghofio” wrth i Lywodraeth Cymru lacio cyfyngiadau Covid-19.

Yn wahanol i Loegr, nid oes dyddiad wedi cael ei osod yng Nghymru ar gyfer pryd gall y diwydiant, sy’n cynnwys clybiau a lleoliadau digwyddiadau byw, ailagor.

Mae galwadau yn cael eu gwneud i’r llywodraeth gyhoeddi cynllun a dyddiad ailagor.

Yn ôl y llywodraeth, bydd unrhyw benderfyniad i lacio cyfyngiadau yn ddibynnol ar y cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf.

‘Dim gobaith’

Dywedodd Zac Mather o’r band Chroma: “Does dim gobaith really gyda’r diwydiant byw yng Nghymru medru ailagor os nad oes llinell glir ar pryd fydden nhw’n gwneud hynny.

“Does dim arian gyda unrhyw un i baratoi at ddigwyddiadau a bod nhw wedyn yn cael eu canslo dro ar ôl tro oherwydd yr holl ansicrwydd.

“Mae’r llywodraeth yng Nghymru angen tynnu socs lan bach, cadarnhau dyddiad ailagor, fel bod gan busnesau a ni fel band obaith bach ac atal mwy o niwed i’r sector.”

Mae Mr Mather hefyd yn gweithio’n llawrydd o fewn y diwydiant digwyddiadau byw.

“Rhwng fi a’r band, ni bron ‘di colli popeth, popeth oedd wedi cael i bwcio yn y calendr," dywedodd.

"Fi’n personol wedi colli tua 60% o fy nghyflog, so mae e wedi bod yn anodd iawn i fi jysd gallu byw a bwyta.”

Galw am eglurdeb

Mae’r band Chroma wedi datgan eu bod yn cefnogi ymgyrch Unite For The Night, corff sydd wedi ei ffurfio ar y cyd rhwng Fforwm Trwyddedigion Caerdydd a Fforwm Lletygarwch Abertawe, ac yn cynrychioli dros 170 o fusnesau diwydiant nos yn y ddwy ddinas.

Mae’r corff yn galw am eglurdeb gan y llywodraeth, ac am gynllun i’r diwydiant i ddod allan o’r cyfnod clo.

“Yn ôl data Unite for the night, mae 36% o bobl sy’n gweithio mewn lleoliad cerddoriaeth byw wedi eu swydd dros y flwyddyn dwetha, gyda dros hanner o staff clybiau cymru hefyd wedi colli eu swydd. Mae’r stats yn shocking,” ychwanegodd y drymiwr.

Llwyddiant digwyddiadau torfol

Daw’r galwadau ar ôl i ddigwyddiadau torfol yn Lloegr brofi’n llwyddiant, gyda 15 o achosion o Covid-19 wedi eu cadarnhau ymhlith bron i 60,000 o bobl wnaeth fynychu digwyddiadau peilot yn y wlad dros yr wythnosau diwethaf.

Dywedodd Nick Newman o Unite For The Night: “Rydym yn falch bod y data rhagarweiniol o Raglen Ymchwil Digwyddiadau Llywodraeth y DU wedi canfod y gall cynnal digwyddiadau torfol heb fasgiau a phellter cymdeithasol fod mor ddiogel â siopa neu ymweld â bwyty.

Mae’r canfyddiadau cychwynnol yn ychwanegu pwysau i’n hymgyrch i ailagor clybiau nos ledled Cymru mewn modd diogel.

“Byddem yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried y canfyddiadau a'r ffactorau hyn yn eu proses benderfynu, er mwyn i glybiau a lleoliadau cerddoriaeth ledled Cymru sy’n wynebu dirywiad i gael gobaith i ailagor yn y dyfodol agos”

Yn ôl y corff, mae’n debyg y bydd rhwng 40-50% yn llai o fusnesau ar agor o’i gymharu â ffigyrau cyn Covid-19.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn deall yr anawsterau sy'n wynebu pob busnes, ac yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â'r economi nos. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector ac yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i fusnesau. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw benderfyniad i lacio cyfyngiadau fod yn seiliedig ar y cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf.

“Mae’r Prif Weinidog wedi dweud os yw’r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau i fod yn gadarnhaol, yn yr adolygiad tair wythnos nesaf ar ddechrau mis Mehefin, byddwn yn ystyried symud i rybudd lefel un, a allai ganiatáu i ddigwyddiadau mwy a gweithgareddau wedi’u trefnu gael eu cynnal, yn seiliedig ar y rhaglen o ddigwyddiadau peilot, sy'n cael ei chynnal ar hyn o bryd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.