Newyddion S4C

Abertawe v Brentford: Galwadau i ganiatáu mwy o gefnogwyr yn Wembley 

Golwg 360 25/05/2021
Stadiwm Wembley

Gyda llai nag wythnos i fynd cyn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth – mae clybiau pêl-droed Abertawe a Brentford wedi galw am yr hawl i fwy o gefnogwyr gael mynychu’r gêm yn Wembley. 

10,000 fydd yn cael mynychu’r gêm ddydd Sadwrn, 29 Mai, tra bod 21,000 wedi cael bod yn gêm derfynol Cwpan FA Lloegr yn Wembley yn gynharach. 

Mae Prif Weithredwr yr Elyrch wedi galw’r penderfyniad yn un “annheg”. 

Daw’r alwad wrth i Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd wynebu pwysau i ganiatáu cefnogwyr i fynychu rownd derfynol gemau ail-gyfle’r Cymru Premier rhwng Caernarfon a Drenewydd ddydd Sadwrn.  

Darllenwch y stori’n llawn yma. 
 

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.