Cefnogwyr Caernarfon yn galw am gael mynd i gêm dyngedfennol
24/05/2021
Mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru o dan bwysau cynyddol i ganiatáu nifer cyfyngedig o gefnogwyr i fynychu rownd derfynol gemau ail-gyfle'r Cymru Premier.
Daw’r galwadau wrth i Gaernarfon baratoi i wynebu'r Drenewydd gartref ar yr Oval ddydd Sadwrn, gyda'r enillydd yn sicrhau lle yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf.
Dim ond swyddogion y ddau glwb fydd yn cael gwylio’r chwarae yn y cae o dan reoliadau coronafeirws.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Siôn Evans