Rhan fwyaf o gwynion yn erbyn swyddogion heddlu o drais yn erbyn menywod yn cael eu gollwng

Mae staff a swyddogion heddlu yn annhebygol o wynebu disgyblaeth yn sgil cwynion o drais yn erbyn menywod yn eu herbyn, yn ôl ffigyrau newydd.
Yn ôl y Cyngor Cenedlaethol o Benaethiaid Heddlu (NPCC), cafodd naw ymhob 10 o gwynion yn erbyn staff heddlu gan y cyhoedd yng Nghymru a Lloegr eu gollwng rhwng Hydref 2021 a Mawrth 2022.
O'r cwynion yma, roedd 63% yn gysylltiedig â gorddefnydd o rym, 9% am ymddygiad aflonyddol a 6% am ymosodiad rhywiol.
Dros yr un cyfnod, cafodd saith ymhob 10 o gwynion mewnol yn erbyn staff heddlu hefyd eu gollwng.
Roedd y cwynion yma yn gysylltiedig â nifer o honiadau gwahanol, gan gynnwys ymosodiad ac aflonyddu rhywiol.
Yn ôl y data gan y NPCC, cafodd llai na 1% o 1,500 o swyddogion ac aelodau staff heddlu oedd yn wynebu cwynion o drais yn erbyn menywod eu diswyddo yn ystod y cyfnod yma.
"Angen cosbau mwy llym"
Dywedodd Dirprwy Prif Gwnstabl, Maggie Blyth, cydlynydd ar gyfer trais yn erbyn menywod a merched i'r NPCC, fod angen i fwy o swyddogion a staff heddlu cael eu cosbi am gamymddygiad yn erbyn menywod.
"Mae'n rhaid i ni fod yn fwy llym yn y cosbau rydym yn defnyddio pan mae yna honiadau o'r fath yma o ymddygiad, pe bai yn gŵyn gan y cyhoedd neu yn un mewnol," meddai.
"Rydw i'n gobeithio os ydym yn ail-gyhoeddi'r data yma ymhen flwyddyn, byddwn yn gweld rhagor o achosion wrth i ni ymchwilio'n bellach.
"Rhagor o achosion ond hefyd system diswyddo a chosbi cyflymach."
Daw'r data wrth i luoedd heddlu ar draws Cymru a Lloegr gynyddu ymdrechion i daclo trais a chasineb yn erbyn menywod yn sgil sawl sgandal diweddar, gan gynnwys llofruddiaeth Sarah Everard gan y cyn-swyddog heddlu Wayne Couzens a charchariad y swyddog David Carrick am nifer o droseddau rhyw.
Mae arweinwyr heddlu wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref i wneud rheolau presennol yn fwy llym, gan gynnwys gwahardd unrhyw un sydd wedi'u cyhuddo neu rybuddio ynglŷn â throseddau yn erbyn menywod rhag ymuno a'r heddlu.
Maent hefyd yn annog penaethiaid lluoedd i gyflymu gwrandawiadau camymddygiad er mwyn gwella'r system disgyblu.
Ar hyn o bryd, mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i 13 cyhuddiad honedig o drais yn erbyn menywod a genethod gan aelodau o'i staff.
"Dychrynllyd"
Dywedodd Ms Blyth: "Mae'r rhan fwyaf o swyddogion a staff yn hollol broffesiynol ond rydw i'n gwybod ei fod yn ddychrynllyd i glywed am droseddwyr posib o fewn y llu ac mae hyn yn gallu siglo ymddiried cyhoeddus sydd eisoes yn wan.
"Dros yr 18 mis diwethaf, mae penaethiaid heddlu wedi canolbwyntio ar adnabod camymddygiad o fewn y lluoedd, cryfhau ymchwiliadau i gamymddygiad a chryfhau cosbau.
"Fy nisgwyliad i yw y bydd effaith y newidiadau yma i'w gweld pan rydym yn cyhoeddi ein hadolygiad nesaf - gyda rhagor o fenywod yn ddigon hyderus i gamu ymlaen, rhagor o ymchwiliadau ar waith a rhagor o achosion wedi'u cau gyda chosbau a diswyddiadau."