Newyddion S4C

Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i achosion honedig o drais yn erbyn menywod gan aelodau staff

21/02/2023
NS4C

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi datgan eu bod yn ymchwilio i 13 cyhuddiad honedig o drais yn erbyn menywod a genethod gan aelodau o'i staff.

Daw'r wybodaeth mewn adroddiad ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, yn dilyn achosion difrifol ddiweddar o gam-driniaeth gan aelodau’r heddlu ar draws y DU, gan gynnwys achos David Carrick o Heddlu'r Met.

Mae'r adroddiad yn nodi fod 27 o ymchwiliadau yn cael eu cynnal ar hyn o bryd i ymddygiad 24 aelod o staff y llu, gyda 13 yn benodol yn ymwneud â bygythiadau yn erbyn menywod a genethod.

‘Dim lle i gasineb at ferched’

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud mai pwrpas yr adroddiad yw ymdrin ag unrhyw adroddiadau o gamymddwyn gan swyddogion a diogelu'r cyhoedd. Maent hefyd yn dweud y bydd staff yn derbyn hyfforddiant penodol i wella’r ffordd y mae cwynion o ymddygiad anaddas yn cael eu trin, a sut i gefnogi dioddefwyr.

Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwyf yn cydnabod y pryderon sydd gan yr heddlu o ran ymddygiad yr heddlu yn dilyn troseddau ofnadwy David Carrick.

“Mae hyn yn dilyn o droseddau eraill gan swyddogion a oedd yn gwasanaethu fel llofruddiaeth Sarah Everard a thriniaeth cyrff y chwiorydd Bibaa Henry a Nicole Smallman.

"Nid oes lle i gasineb at ferched yn y gwasanaeth heddlu. Ni ddylai troseddwyr sydd yn cam-drin fod mewn swydd sy'n golygu gwarchod pobl eraill.”

'Chwynnu'

Dywedodd Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ein cymunedau yn iawn i ddisgwyl y safonau a'r ymddygiad uchaf a gan ein holl weithwyr.

“Mae sawl ffordd ddiogel o hysbysu am achosion lle mae ein gweithwyr wedi siomi'r safonau disgwyliedig ganddynt. I'r dioddefwyr hynny sydd ddim eisiau hysbysu'r heddlu'n uniongyrchol, gwnewch drwy sefydliadau eraill fel yr Uned Diogelwch Cam-drin Domestig neu'r Ganolfan Cymorth Treisio a Cham-drin Rhywiol.

"Rydym yn parhau i ymrwymo at sicrhau fod ein systemau'n effeithiol wrth ddiswyddo swyddogion sydd, yn syml, ddim yn addas i wisgo'r lifrai. Fe wnawn barhau i chwynnu'r swyddogion hynny a chael gwared ohonynt o'n heddlu."

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.