Newyddion S4C

Jamie Roberts

Jamie Roberts yn 'hynod o ddiolchgar' ar ôl cael ei grysau coll yn ôl

NS4C 24/02/2023

Mae bag llawn o hen grysau rygbi’r cyn-chwaraewr rygbi Jamie Roberts wedi ei ddychwelyd iddo yn dilyn apêl ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ddydd Iau fe apeliodd at ei ddilynwyr ar Twitter am help i ddod o hyd i fag o grysau oedd wedi disgyn allan o’i gar yng nghanol Caerdydd ar ôl iddo yrru i ffwrdd gyda’r bŵt ar agor.

Roedd y bag yn cynnwys crysau o bob un o'r clybiau yr oedd wedi chwarae iddyn nhw drwy gydol ei yrfa, gan gynnwys Racing 92, Harlequins a'r Dreigiau. Roedd crysau a wisgodd wrth chwarae dros Gymru, Y Llewod a'r Barbariaid wedi eu colli hefyd.

Ond yn dilyn yr apêl, fe wnaeth gweithwyr i elusen ddigartrefedd Huggard yn y ddinas ddod o hyd i’r bag, a threfnu eu bod yn cael eu dychwelyd i Roberts.

Mawr oedd rhyddhad y cawr o ganolwr.

Dywedodd mewn trydariad: “Mae’r crysau wedi eu canfod. Hynod o ddiolchgar i bawb a helpodd ledaenu’r gair. Diolch i Heddlu De Cymru a Chanolfan Huggard.”

Llun: Jamie Roberts gan Huw Evans / Gareth Everett.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.