Jamie Roberts yn apelio am help ar ôl colli crysau rygbi gwerthfawr
Mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru Jamie Roberts wedi apelio am help ar ôl colli llond bag o grysau rygbi gwerthfawr.
Roedd Roberts wedi llwytho'r crysau i'w gar cyn gyrru i ffwrdd, ond roedd wedi anghofio cau'r bŵt cyn gwneud.
Dywedodd eu bod yn cynnwys crysau o bob un o'r clybiau yr oedd wedi chwarae iddyn nhw drwy gydol ei yrfa, gan gynnwys Racing 92 a'r Dreigiau. Roedd crysau a wisgodd wrth chwarae dros Gymru, Y Llewod a'r Barbariaid wedi eu colli hefyd.
Roedd un crys o ffeinal cwpan Ewropeaidd gyda'r Harlequins.
Fe wnaeth y crysau gwympo allan o'i gar rhwng Heol Penarth a Pharc yr Arfau yng Nghaerdydd, ac fe wnaeth Roberts apelio ar Twitter am wybodaeth.
"Roeddwn i wedi gadael bŵt fy nghar ar agor ar ddamwain ac wedi colli bag llawn o grysau ar y ffordd yng Nghaerdydd," meddai.
"Dw i wedi eu colli nhw rhwng Big Yellow Storage ar Heol Penarth a Pharc yr Arfau rhwng 13:25 a 13:35."
Ychwanegodd fod gan y crysau werth sentimental iddo.