Newyddion S4C

Dur

Gobeithion am ddyfodol swyddi dur yng Nghasnewydd

NS4C 17/02/2023

Mae gobaith y byddai swyddi dur yng Nghasnewydd yn cael eu harbed ar ôl i gwmni Aartee Bright Bar gael ei chymryd drosodd.

Yn ôl cyhoeddiad ddydd Gwener, bydd y cwmni yn cael ei chyfuno gyda chwmni Liberty Steel Group ar ôl pryniant o’r busnes gan gwmni GFG Alliance, sydd yn berchen i Sanjeev Gupta a’i deulu.

Daw hyn ar ôl i Aartee galw gweinyddwyr i mewn wythnos ddiwethaf, yn sgil amodau economeg anodd a’r gost gynyddol o fetel.

Aarte yw’r dosbarthwr fwyaf o ddeunydd dur ar gyfer peirianneg ym Mhrydain, gyda chanolfannau yng Nghasnewydd, Bolton, Southampton, Rugby a’r bencadlys yng Nghanolbarth Lloegr. Mae disgwyl i 250 o swyddi cael eu harbed ar draws y cwmni.

Mae Community, yr undeb gweithwyr dur, yn croesawu’r newyddion.

Meddai Alun Davies, swyddog cenedlaethol Community: “Mae’r newyddion ynghylch pryniant GFG o Aartee Bright Bar yn galonogol iawn.

“Wrth i ni ddisgwyl am ragor o fanylion am gynlluniau GFG ar gyfer Aartee, bydd y cyhoeddiad yma yn cael ei chroesawu gan weithwyr Aarte, yn ogystal â phawb sy’n gweithio ar draws y gadwyn cyflenwi.”

Daw'r newyddion ar ôl y cyhoeddiad fis diwethaf y byddai'r ffatri Liberty Steel yng Nghasnewydd yn cau.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.