Newyddion S4C

Ergyd i Gasnewydd wrth i gwmni dur gyhoeddi eu bod yn cau ffatri

12/01/2023
Liberty Steel Casnewydd

Mae cwmni Liberty Steel wedi cyhoeddi y byddant yn rhoi'r gorau i gynhyrchu dur yn eu ffatri yng Nghasnewydd. 

Bydd y ffatri yng Nghasnewydd yn cael ei thrawsnewid yn "ganolfan storio, dosbarthu a masnachu" a bydd ffatri ddur yn West Bromwich hefyd yn cau, gan olygu bod hyd at 440 o swyddi yn y fantol yn y busnes. 

Dywedodd y cwmni y byddant yn trafod gyda chynrychiolwyr gweithwyr, undebau llafur a Llywodraeth y DU drwy gydol y broses.

Ychwanegodd y cwmni eu bod yn bwriadu dechrau ar eu bwriad i ailstrwythuro er mwyn "sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer ei fusnesau a'i weithlu."

Dywedodd y cwmni hefyd eu bod yn bwriadu cynnig opsiynau eraill yn hytrach na diswyddiadau drwy raglen sy'n ceisio cadw, adleoli ac ailsgilio gweithwyr sydd wedi eu heffeithio. 

Drwy'r cynllun yma, maent hefyd yn gobeithio cynnig cyflog gwarantedig, gyda'r bwriad o adleoli'r gweithwyr ar delerau cyflogaeth blaenorol pan fydd amodau'r farchnad yn caniatáu hynny.

'Ergyd'

Er hyn, dywedodd swyddog cenedlaethol undeb gweithwyr dur Community, Alun Davies, fod y cyhoeddiad yn "ergyd drom i weithlu ffyddlon Liberty Steel yn y DU - ni allent fod wedi gwneud mwy i sicrhau fod y cwmni yn goroesi'r cyfnod hynod o heriol yma.

"Roedd y cynlluniau y gwnaethom ni adolygu yn seiliedig ar fuddsoddiad sylweddol a chynyddu cynhyrchiant, gan gynnwys yn Liberty Steel yng Nghasnewydd, ac nid oeddent yn cynnwys rhoi'r gorau i gynhyrchu ar unrhyw safle.

“Mae hwn yn gyfnod heriol i’r holl wneuthurwyr dur ond mae penderfyniad y cwmni i newid eu cynlluniau a chyhoeddi strategaeth yn seiledig ar doriadau capasiti a diswyddiadau yn dorcalonnus."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "parhau i fod yn ymrwymedig i ddyfodol llwyddiannus, carbon isel i ddur Cymru. Fodd bynnag, mae cyrraedd y nod hwn yn gofyn am weithredu brys a gafael gan Lywodraeth y DU.

"Dyna pam rydym wedi galw dro ar ôl tro ar Weinidogion y DU i gyflwyno pecyn cymorth ar frys i sicrhau cynhyrchu dur yng Nghymru."

'Eistedd ar ei dwylo'

Dywedodd Stephen Kinnock, AS Llafur dros Aberafan a chadeirydd y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar Ddur: “Mae’n rhaid i bawb ddeffro i bwysigrwydd y diwydiant dur.

“Bydd y byd yn defnyddio mwy o ddur yn y degawdau nesaf ac, yn oes ymosodiad Putin a Tsieina, mae dirfawr angen yr angen i greu dur yma ym Mhrydain.

“Does dim modd i ni fforddio allforio swyddi da, ein diogelwch cenedlaethol ac allyriadau carbon i weithfeydd dur budr dramor, a reolir yn aml gan gyfundrefnau awdurdodaidd sy’n dymuno niwed i Brydain.

“Mae newyddion heddiw yn enghraifft glir o’r hyn sy’n digwydd pan mae Llywodraeth y DU eistedd ar ei dwylo a gwneud dim byd.”

'Aberthu'

Dywedodd ASau Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru Delyth Jewell a Peredur Owen Griffiths fod gweithwyr dur eisoes wedi “aberthu llawer” er mwyn cefnogi’r diwydiant.

“Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i ymyrryd yn syth ar ran y gweithwyr lleol drwy gyfarfod â Liberty i drafod ffyrdd y gellir osgoi diswyddiadau,” medden nhw.

Dywedodd y ddau fod “yr anrhefn economaidd a grëwyd gan flynyddoedd o fethiannau’r Torïaid” wedi ychwanegu at y problemau.

“Er mwyn i ddur a gynhyrchir yng Nghymru a ledled y DU fod yn gystadleuol yn y tymor hir mae angen strategaethau cydlynol, tymor canolig a hirdymor i roi'r diwydiant dur ar sylfaen gynaliadwy,” medden nhw.

“Rhaid i Weinidogion roi’r gorau i orffwys ar eu rhwyfau a gweithredu nawr i achub ein dur.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.