Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

17/05/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma olwg sydyn ar rai o'r prif straeon ar ein hafan ar ddydd Llun, 17 Mai.

Cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio ymhellach yng Nghymru

Mae cyfyngiadau'r pandemig wedi eu llacio ymhellach yng Nghymru ddydd Llun wrth i'r sector lletygarwch ailagor dan do ac wrth i weddill y diwydiant twristiaeth gael ailagor. Bydd hyd yn oed modd dechrau teithio'n rhyngwladol unwaith eto, ond dim ond i restr benodol o wledydd gan ddilyn system oleuadau traffig y llywodraeth.

Prisiau tai Cymru yn profi'r cynnydd mwyaf ym Mhrydain - Wales Online

Mae prisiau tai yng Nghymru wedi gweld y cynnydd mwyaf ym Mhrydain, yn ôl ffigyrau gan y wefan dai Rightmove. Mae'r prisiau cyfartalog yng Nghymru wedi profi cynnydd o 13%, o'i gymharu â 0.2% yn Llundain. Ar gyfartaledd, mae'r prisiau ar draws y Deyrnas Unedig wedi codi i'r lefel uchaf erioed.

Dwyn carafanau: Pryder am ‘broblem gynyddol’ yn sgil y pandemig

Mae pryderon fod dwyn carafanau'n dod yn "broblem gynyddol" yn sgil y pandemig, ar ôl i nifer o garafanau gael eu dwyn yn y gogledd. Yn ôl un perchennog busnes carafanau, mae pobl yn ceisio torri mewn i'w safle "unwaith neu ddwywaith yr wythnos" ac mae'n credu bydd y broblem yn gwaethygu dros y blynyddoedd nesaf.

I'm a Celeb: Abergele neu Awstralia? - MailOnline

Mae gan gynhyrchwyr y gyfres deledu realaidd boblogaidd I'm a Celebrity bythefnos yn unig i benderfynu ar leoliad ar gyfer eleni. Yn ôl rhai adroddiadau, mae'n bosib y gallai'r gyfres gael ei chanslo'n ddiweddarach yn y flwyddyn o ganlyniad i'r pandemig os fydd hi'n dychwelyd i Awstralia yn lle Castell Gwrych yn Abergele.

Cofiwch ddilyn y newyddion diweddaraf ar ap a gwefan Newyddion S4C trwy gydol y dydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.