Prisiau tai Cymru yn profi'r cynnydd mwyaf ym Mhrydain
17/05/2021
Cymru sydd wedi profi'r cynnydd mwyaf mewn prisiau tai o unrhyw le ym Mhrydain, yn ôl y wefan dai Rightmove.
Mae prisiau tai yng Nghymru wedi gweld cynnydd o 13% mewn blwyddyn, bron i ddau y cant yn uwch na'r ardal nesaf ar y rhestr, gogledd orllewin Lloegr.
Mae hyn dipyn yn uwch na phrisiau Llundain sydd wedi cynyddu 0.2% ers Mawrth 2020.
Mae'r prisiau cyfartalog ar draws y Deyrnas Unedig wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, adrodda Wales Online, 1.8% yn uwch na'r pris uchaf erioed blaenorol a gafodd ei gofnodi ond mis yn ôl.
Darllenwch y stori'n llawn yma.