Newyddion S4C

Cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio ymhellach yng Nghymru

17/05/2021
Tafarn

Wrth i gyfraddau Covid-19 barhau yn isel yng Nghymru, bydd y diwydiant lletygarwch yn cael ailagor i weini cwsmeriaid dan do unwaith eto.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd y wlad yn symud i lefel rhybudd dau ddydd Llun.

Yn ogystal, bydd lleoliadau adloniant dan do yn ailagor, gyda mwy o bobl hefyd yn cael mynd i weithgareddau wedi’u trefnu dan do ac yn yr awyr agored, gan gynnwys priodasau.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Diolch i’ch holl waith caled chi, mae gan Gymru’r cyfraddau coronafeirws isaf yn y DU. Er hyn, bydd y pandemig yn parhau i daflu heriau newydd atom, fel yr amrywiaid Indiaidd, sydd yn cael ei fonitro’n agos. Ond drwy barhau i weithio gyda’n gilydd i gadw yn ddiogel, gallwn ailagor Cymru a dechrau ar y gwaith i adfer o’r pandemig.”

2m o bobl yng Nghymru wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn

Cadarnhaodd y Prif Weinidog Mark Drakeford hefyd y bydd teithio rhyngwladol yn cael ailddechrau o ddydd Llun.

Ond yn ôl Mr Drakeford, bydd “mesurau diogelu ychwanegol” yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer rhai sy’n dychwelyd o rai gwledydd, er mwyn “helpu atal y feirws rhag dychwelyd i Gymru”.

Bydd system oleuadau traffig debyg i i'r Alban a Lloegr yn cael ei defnyddio yng Nghymru, gyda Phortiwgal ymhlith yr atyniadau twristiaid mwyaf ar y rhestr werdd.

Image
Y Dderwen
John Les Thomas, perchennog tafarn Y Dderwen, Sir y Fflint.

‘Ddim yn agor’

Er bod y newyddion am lacio’r cyfyngiadau yn cael ei groesawu gan nifer, mae un tafarnwr yn Sir y Fflint wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C na fydd yn ailagor, gan ddweud y byddent yn cau eu drysau “yn barhaol”.

Yn ôl John Les Thomas, sy’n berchen ar dafarn Y Dderwen yn yr Wyddgrug, byddai agor o dan y cyfyngiadau “ddim yn gweithio”.

“Y rhagolygon wan ydi na fyddwn ni’n agor o gwbl, ‘da ni yn cau yn barhaol. ‘Da ni wedi edrych ar y symiau a faint fyse fo’n gostio i ailagor, a pan de chi’n cymryd yr ystyriaeth be fyse rhaid i ni neud tu mewn i newid pethau a faint o bobl fyse’n gallu dod i mewn fo’r dwy fedr a hyn a llall ac arall… Na, dydy o ddim yn mynd i weithio yn anffodus.”

Mae Mr Thomas a’i wraig wedi rhedeg y dafarn ers chwarter canrif.

“Mae’r wraig a finne yn teimlo’n andros, andros o drist. ‘Da ni wedi bod yma am chwarter canrif. ‘Da ni wedi gwneud hon yn dafarn gymunedol. Mae ‘di bod yn dafarn Gymreig. Er bo ni mewn rhan o Sir y Fflint, sydd yn Seisnig iawn fan hyn, Cymraeg ydy prif iaith y dafarn yma wedi bod ers chwarter canrif. A rŵan, wrth gwrs, ‘da ni’n mynd i golli hwnna i gyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.