Newyddion S4C

2m o bobl yng Nghymru wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn

16/05/2021
Canolfan Brechu, Bangor

Mae dros 2m o bobl wedi derbyn dos cyntaf o'r brechlyn Covid-19 yng Nghymru.

Daw'r newyddion wrth i Loegr gynyddu'r broses o frechu yn y wlad i geisio brwydro yn erbyn bygythiad cynyddol amrywiolyn India.

Mae 915,674 o bobl wedi derbyn dau ddos o'r brechlyn, gyda 2,019,160 wedi cael eu dos cyntaf.

Dywedodd Gweinidog Iechyd newydd Cymru, Eluned Morgan: “Mae hwn yn gyflawniad gwych mewn cyfnod mor fyr o amser. Rydw i’n eithriadol falch a diolchgar i’r miloedd o bobl – staff y GIG, personél y fyddin a gwirfoddolwyr – sydd wedi gweithio mor galed ledled y wlad er mwyn cyrraedd y garreg filltir yma.

“Mae brechu’n gwneud byd o wahaniaeth i lwybr y pandemig. Mae pob dos sy’n cael ei roi yn fuddugoliaeth fechan yn erbyn y feirws difrifol yma.”

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 54 o achosion newydd o Covid-19 wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru ddydd Sul, ac 1 farwolaeth newydd.

Bellach, mae 212,149 o bobl wedi eu heintio gyda'r feirws, a 5,559 wedi marw yn sgil Covid-19. Dros y saith diwrnod diwethaf, 9.5 oedd y gyfradd heintio fesul 100,000 o'r boblogaeth ledled y wlad.

Bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd dau ddydd Llun, gyda thafarndai, bwytai a chaffis yn cael agor i weini cwsmeriaid tu mewn. 

Yn ogystal, bydd mannau adloniant dan do, gan gynnwys sinemâu, neuaddau bingo, llefydd bowlio a neuaddau cyngerdd yn ail agor. 

Bydd teithio rhyngwladol hefyd yn dechrau eto ddydd Llun, gyda'r un system goleuadau traffig â Lloegr a'r Alban yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru.

Er hynny, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cynghori pobl i osgoi teithio dramor oherwydd bygythiad y feirws.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.