Newyddion S4C

Dwyn carafanau: Pryder am ‘broblem gynyddol’ yn sgil y pandemig

17/05/2021
Carafanau

Ar ôl i nifer o garafanau gael eu dwyn yn y gogledd, mae pryder y gall lladrad carafanau fod yn broblem gynyddol yn sgil y pandemig.

Gyda disgwyl y bydd gwyliau domestig yn fwy poblogaidd fyth eleni, mae un perchennog busnes gwerthu carafanau wedi dweud wrth Newyddion S4C fod pobl yn ceisio torri mewn i’w safle “unwaith neu ddwywaith yr wythnos”.

Dywedodd John Evans, Perchennog Evans Caravan and Camping Ltd: “Rydyn ni'n cael llwyth o bobl yma yn ceisio pinsio. Ond mae gennym ni system larwm dda rŵan. Mae gennym iard storio ac mae'n rhaid i ni gymryd tro i aros yno oherwydd ei fod mor ddrwg â hynny.”

Mae gan y cwmni ddau safle, un yn Chwilog ac un ym Mhenrhyndeudraeth yng Ngwynedd.

Dywed Mr Evans ei fod wedi dioddef colledion ar y ddau safle oherwydd lladron.

“Dwi wedi colli’n agos at £100,000 dros y chwe blynedd diwethaf. Mae pobl yn ceisio torri mewn i ddwyn partiau hefyd.”

Mae Mr Evans wedi ei argyhoeddi y bydd y broblem yn gwaethygu dros y blynyddoedd nesaf.

“Dwi’n meddwl bydd hyn yn broblem gynyddol, yn enwedig blwyddyn yma a’r flwyddyn nesa’ gan bod neb yn mynd dramor.

“Rhowch 12 mis, dwy flynedd, dwi’n meddwl bydd arian yn mynd yn anoddach i ddod ar ei draws… dwi’n meddwl bydd pobl yn dlotach ac am achosi pobl i wneud pethau gwirion neu beth bynnag. Dyne dwi’n ei feddwl.”

Cyhoeddodd Heddlu Gogledd Cymru bod dyn wedi cael ei gyhuddo o ddwyn carafanau ar ôl digwyddiad yng Nghaernarfon ddydd Gwener.

Bydd Sid Wain, 39, o Coventry, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon ddydd Llun, yn wynebu cyhuddiad o ladrad a gyrru heb drwydded ac yswiriant.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.