Newyddion S4C

Profiad 'torcalonnus' teulu wedi i garafan gael ei dwyn

15/05/2021

Profiad 'torcalonnus' teulu wedi i garafan gael ei dwyn

Mae teulu o Gricieth wedi rhannu eu tor-calon ar ôl i'w carafán gael ei dwyn yn yr oriau mân fore dydd Gwener. 

Roedd Emlyn Tudor a'i wraig yn gobeithio mynd i aros yn eu carafán, oedd wedi ei chadw ar faes carafannau yng Ngwynedd, dros y penwythnos.

Cafodd tri cherbyd ar lôn Bangor yng Nghaernarfon eu stopio fore dydd Gwener oedd yn tynnu carafannau, gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod un dyn wedi ei arestio, tra bod dau ddyn wedi dianc.

Yn disgrifio'r olygfa adawodd y lladron ar safle ei garafán yn y maes carafannau, dywedodd Mr Tudor ei fod yn "dorcalonnus".

Image
Emlyn Tudor

"Mond yr adlen yn sefyll ar ei ffrâm, a'r garafán ddim yno. I weld yn fano beth oedd wedi digwydd, odd o ddigon torcalonnus. Ryw deimlad digon od yn y stumog, a ryw gryndod," meddai.

"Ond ma' hynny erbyn wan wedi troi yn [deimlad] blin ofnadwy... dwi'n teimlo'n reit gas am yr holl beth."

"Diolch i'r heddlu, ma' nhw wedi arbed arian mawr i gwmnïau insiwrans amwn i hefyd. Ond ia, i ni fel perchnogion, da ni 'di gweithio'n galed ar hyd ein hoes i safio pres i allu cal rhywbeth fel hyn. Mae o'n dorcalonnus dweud gwir."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.