Newyddion S4C

I'm a Celeb: Abergele neu Awstralia?

Mail Online 17/05/2021
I'm a Celeb

Mae gan gynhyrchwyr y gyfres deledu realaidd boblogaidd I'm a Celebrity bythefnos i benderfynu rhwng dychwelyd i'r jyngl yn Awstralia neu i fynd yn ôl i ogledd Cymru am flwyddyn arall, yn ôl MailOnline.

Cafodd y gyfres ddiwethaf ei chynnal yng Nghastell Gwrych, Abergele, oherwydd cyfyngiadau teithio yn sgil pandemig Covid-19.

Y gred yw y byddai'n bosib y gallai'r gyfres gael ei chanslo yn hwyrach yn y flwyddyn oherwydd y pandemig os bydd y tîm cynhyrchu'n penderfynu i ddychwelyd i Awstralia.

Dywedodd llefarydd ar ran ITV fod gan y gyfres gynlluniau yn eu lle ar gyfer y ddau leoliad. 

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.