Newyddion S4C

Eisteddfod i'r gymuned LHDTC: 'Dim angen colli hunaniaeth Gymraeg'

Newyddion S4C 11/01/2023

Eisteddfod i'r gymuned LHDTC: 'Dim angen colli hunaniaeth Gymraeg'

Fe fyddai sefydlu Eisteddfod leol ar gyfer pobol hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thrawsryweddol yn dangos bod "dim angen colli" eich hunaniaeth Gymraeg os ydych yn rhan o'r gymuned LHDTC+, yn ol un sy'n gobeithio cystadlu.

Os bydd digon o ddiddordeb, y bwriad yw cynnal yr Eisteddfod, y cyntaf o'i bath, yn yr haf eleni yng Nghaerdydd, gyda'r gobaith o symud o gwmpas y wlad yn y dyfodol.

Fe fyddai'r Eisteddfod yn ddatblygiad ar arlwy Mas ar y Maes, gŵyl i ddathlu'r gymuned lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thraws, gafodd ei sefydlu yn fel rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol rhai blynyddoedd yn ôl.

Mae'r trefnwyr wedi cynnal ymgynghoriad ar gynnal Eisteddfod swyddogol i gystadleuwyr LHDTC+ er mwyn cyflwyno tystiolaeth o ddiddordeb mewn Eisteddfod o'r fath.

"Ces i cyfarfod gyda'r Eisteddfod Genedlaethol a naeth nhw cynnig sefydlu Eisteddfod Mas Ar y Maes i bobl LHDTC+ ond cyn 'neud 'ny, cyn i ni 'neud 'na'n swyddogol, mae'n rhaid i ni dangos bod rhyw fath o diddordeb yn gwneud 'ny," meddai Daniel Bowen, o fudiad Paned o Gê, siop lyfrau LHDTC+ yng Nghaerdydd

"Dwi 'di sefydlu Google Form, dwi 'di dosbarthu fo a jyst nawr mae angen i bobl llenwi fo mewn i ddangos i'r byd mae yna awydd i wneud digwyddiad o'r math 'ma."

'Eisteddfod i bawb'

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol a Chymdeithas Eisteddfodau Cymru yn gefnogol o'r syniad ac yn ôl prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, mi fydd yn Eisteddfod "i bawb".

"Mi fydd e'n dilyn patrwm Eisteddfodau bach, felly mi fydd gynnoch chi restr destunau, mi fydd 'na gyfleoedd a dwi'n siwr y byddan nhw'n edrych am rywbeth gwahanol i'w gyflwyno," meddai Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol.

Image
Betsan Moses
Mae Betsan Moses wedi croesawi'r syniad o Eisteddfod LHDT+

"Mi fydd e'n gynhwysol hefyd, bydd cyfle i bawb. Mi fydd e'n rhywbeth sy'n ychwanegiad, yn gyfle i bobol i gymryd rhan."

"Dwi'n credu bod hwn yn ddatblygiad hyfryd oherwydd mae'n rhoi cyfle i Eisteddfod fach Mas ar y Maes ddigwydd ac yna mae pobol falle yn gallu gweld hwn ac ystyried 'o dwi'n licio hwn, dwi eisiau bod ar y siwrne' 'ma.' Falle fe ddown nhw i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

'Pwysig i bawb sy'n siarad Cymraeg weld eu hunain'

Mae Crash Wigley, sy'n arwain côr Cantorion Traws Caerdydd, yn croesawu'r camau at greu Eisteddfod arbennig i bobol LHDTC+.

"Nathon ni berfformio yn Mas ar y Maes pan oedd yr Eisteddfod yng Nghaerdydd ychydig o flynyddoedd yn ôl," meddai.

"Roedd pobol yn joio mas draw, mae wedi bod yn peth lyfli i rannu gyda'r côr achos mae'n gôr di-Gymraeg y rhan fwyaf, felly i gyflwyno caneuon Cymraeg iddyn nhw a helpu pobol i ddysgu nhw, cyflwyno cerddoriaeth newydd, mae wedi bod yn bleser."

Image
Crash Wigley
Yn ôl Crash Wigley, bydd yr Eisteddfod yn 'codi gwelededd' pobl LHDT+ sy'n siarad Cymraeg

"Mae'n anfon y neges bod dim angen colli rhan hynna o'ch hunaniaeth achos bod ti'n LHDT, 'da chi ddim angen gadael Cymraeg chi ar stepen y drws, so dwi'n meddwl bod hwnna wedi bod yn bwysig iawn o ran codi gwelededd pobol LHDT sy'n siarad Cymraeg.

Yn ôl Crash Wigley, mae'r côr yn awyddus i gymryd rhan a chystadlu yn yr Eisteddfod - rhywbeth dydyn nhw erioed wedi ystyried gwneud o'r blaen.

"Roedd pobol wedi joio cymryd rhan yn yr Eisteddfod cymaint y tro diwethaf, pan oedd o yng Nghaerdydd, felly roedd pobol yn awyddus iawn i gael go. Dydyn ni heb gystadlu mewn unrhyw beth o'r blaen felly bydd hwnna'n brofiad newydd i ni!"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.