Newyddion S4C

Canslo hediad cefnogwyr y Wal Goch i Montenegro

09/09/2024
Cefnogwyr

Mae un o deithiau cefnogwyr pêl-droed Cymru i Montenegro wedi ei chanslo yn dilyn trafferthion gyda hediad o Faes Awyr Caerdydd.

Daeth cadarnhad nos Sul na fyddai'r awyren oedd wedi ei threfnu gan gwmni Wonky Sheep yn hedfan o gwbwl, wedi ymdrechion i geisio dod o hyd i drefniant arall er mwyn sicrhau bod y cefnogwyr yn medru cyrraedd y gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd. 

Ar ôl clywed am y trafferthion, penderfynodd nifer o gefnogwyr y Wal Goch wneud trefniadau eraill er mwyn cyrraedd Montenegro. 

Fe gafodd cwsmeriaid Wonky Sheep wybod nos Wener bod eu taith wedi’i chanslo oherwydd bod yr awyren wreiddiol "wedi ei tharo gan adar".

Roedd yr awyren honno i fod i gludo teithwyr o faes awyr Caerdydd i faes awyr Podgorica am 03.00 yn oriau man fore Sadwrn. 

Cafodd nifer o'r cefnogwyr gynnig llety yng Nghaerdydd wrth iddyn nhw aros am gadarnhad a fyddai modd iddyn nhw deithio o Gaerdydd i Montenegro.

Roedd Iwan Pryce o Sanclêr, Sir Gaerfyrddin ymhlith y rhai a oedd i fod i deithio gyda chwmni Wonky Sheep am 3am fore Sadwrn. 

Roedd y cwmni sydd yn trefnu llety a hediadau ar gyfer digwyddiadau chwaraeon yn bennaf wedi cysylltu â chwsmeriaid nos Wener i annog pobl i beidio â theithio i Faes Awyr Caerdydd ar gyfer eu taith. 

Ar y pryd, roedd Mr Pryce a chefnogwyr eraill y Wal Goch yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Twrci.

Wrth siarad â Newyddion S4C ddydd Sadwrn, dywedodd: “Tua half-time oedd pobl yn dweud ‘Ti ‘di gweld y neges?’, ac o’n i’n meddwl ‘Pa neges? Dwi ddim ‘di cael dim byd.’

“O’n i ddim rili yn gwybod be’ oedd yn digwydd ond wedyn ges i’r neges oedd pawb arall ‘di cael, sef basically ‘Do not come to the airport’.” 

Roedd Mr Pryce wedi gobeithio teithio i Faes Awyr Caerdydd yn syth wedi i gêm Cymru yn erbyn Twrci ddod i ben, ond bu'n rhaid iddo aros gyda ffrindiau dros nos yn lle. 

Fe benderfynodd Mr Pryce i archebu hediad arall a theithio o faes awyr Gatwick i Podgorica yn ystod oriau mân fore Sul. 

Mewn datganiad i Newyddion S4C, dywedodd llefarydd ar ran Wonky Sheep eu bod nhw’n “cadw mewn cysylltiad gyda chefnogwyr ac wedi bod yn eu diweddaru yn uniongyrchol.”

'Diweddaru'

Mewn e-bost a gafodd ei rannu gyda Newyddion S4C, dywedodd cwmni Wonky Sheep wrth gefnogwyr nos Wener fod un awyren wedi cael ei daro gan adar gan olygu na fyddai’n bosib iddi hedfan bellach. 

“Plîs PEIDIWCH â mynd i faes awyr Caerdydd yn dilyn y gêm. Plîs ewch adref,” meddai’r e-bost.

Mewn e-bost o ddiweddariad brynhawn Sadwrn, dywedodd Wonky Sheep fod yna “ddau opsiwn posib” allai olygu y bydd cefnogwyr Cymru yn cael teithio i wlad Montenegro.

Daeth sawl diweddariad arall wedi hynny, cyn i'r cefnogwyr gael gwybod nos Sul na fyddai hediad o gwbwl. Dyw hi ddim yn glir faint o gefnogwyr sydd wedi methu teithio draw i'r gêm oherwydd y trafferthion.        

Bydd gêm Cymru yn erbyn Montenegro yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Nikšić am 19.45  nos Lun, 9 Medi. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.