Byd bach: Ysgol yn Bangkok ag athro a disgybl Cymraeg yn yr un dosbarth
Yn aml mae’r Cymry yn defnyddio’r dywediad ‘byd bach’, a dyna’n union oedd geiriau athro o Lanrug ar ei ddiwrnod cyntaf mewn ysgol yn Bangkok.
Fe gafodd Tomos Emlyn ychydig o sypreis ddechrau’r tymor wedi iddo sylweddoli fod ganddo ddisgybl Cymraeg yn ei ddosbarth blwyddyn tri yn ‘Aster International School’, Bangkok.
“Pan es i mewn i’r ysgol ar y diwrnod cyntaf yn dysgu, o’n i’n edrych ar y gofrestr a gweld yr enw Alis. Nes i feddwl yn syth mae’n rhaid bod hi efo cysylltiad â Chymru,” meddai Tomos.
“Ac wrth i mi ddod i adnabod y disgyblion, nath Alis sôn bod ei mam yn dod o Gymru, a'u bod nhw yn siarad Cymraeg.”
Yn digwydd bod mae Lois Jones, mam Alis, hefyd yn gweithio fel athrawes yn yr ysgol, wedi iddi symud i Thailand dros 18 mlynedd yn nôl, lle mae hi wedi magu ei merched, Casi ac Alis.
Dywedodd Tomos: “Oedd o yn sypreis neis, dydi hi ddim yn ysgol mawr iawn, felly dyna’r peth olaf o’n i yn disgwyl. Ysgol ryngwladol ydi hi felly mae disgyblion yn dod o bob rhan o’r byd, ond do’n i ddim yn disgwyl neb o Gymru."
Roedd Alis yr un mor gyffrous bod ei athro newydd yn siarad Cymraeg.
“O’n i yn gyffrous ac yn teimlo yn dda pan nes i sylweddoli bod Mr Tomos yn dod o Gymru, ond o’n i hefyd yn surprised pan nath o ddechrau siarad Cymraeg,” meddai.
Mae Alis yn edrych ymlaen at gael ymarfer ei Chymraeg gyda Mr Tomos.
Yn ôl Lois, mae hi’n braf i gael cwmni Cymraeg yn yr ysgol ac yn gyfle gwych i’w merched gael siarad mwy o Gymraeg.
“Pan nes i glywed bod Mr Tomos yn dysgu Alis o’n i'n meddwl bod e yn amazing. A nes i ddweud wrth mam hefyd a oedd hi mor chuffed.
“O’n i wedi gweld yr enw Tomos Emlyn a nes i feddwl, ma’ fe bownd o fod yn Gymro gydag enw fel yna ac mae fe yn swnio yn real bachgen o Lanrug pan ma’ fe’n siarad Cymraeg.
“Bydd e yn gyfle gwych i’r merched gael siarad Cymraeg gyda rhywun arall, ond hefyd ma’ fe neis i fi gael cyd-weithiwr sy’n siarad Cymraeg.”
Mae Casi, merch hynaf Lois ym mlwyddyn 12 yn yr ysgol. Mae hi yn barod wedi cymryd y cyfle i siarad Cymraeg gyda Mr Tomos.
“Nes i weld Mr Tomos yn y canteen, nath e ddod lan i fi a dechrau siarad Cymraeg mewn acen gog.
“Oedd o yn neis, a nawr bob amser ni’n pasio ein gilydd ni’n cael sgwrs yn y Gymraeg. Ma’ fe yn rili neis.”
Roedd magu ei phlant gyda’r Gymraeg yn gam naturiol i Lois.
“Fi’n dod o deulu Cymraeg yng Nghaerdydd. Bydde fe wedi bod yn deimlad od i siarad Saesneg gyda nhw ac mae’n bwysig i mi bod nhw’n gallu siarad Cymraeg gyda theulu pan ni’n mynd gatre hefyd,” meddai.
“Pan oedd y plant yn fach oedden ni yn rhoi S4C ymlaen, rhaglenni Cyw - fe wnaeth hynny helpu. A nawr fi mor hapus bod Tomos yn athro i Alis.”
Mae Tomos yn bwriadu siarad mwy o Gymraeg gydag Alis yn yr ysgol ac mae ganddo gynlluniau i addysgu eraill yn y dosbarth am eu diwylliant.
“Dwi wedi cyflwyno fy hun i’r plant a dweud bod fi’n dod o Gymru ac mae gen i faner Cymru i fyny. Gan bod y disgyblion yn dod o wledydd ac ardaloedd gwahanol mae’n gyfle i ddysgu am ddiwylliannau ac ieithoedd gwahanol felly gobeithio geith fi ac Alis gyfle i ddysgu’r gweddill am Gymru a’r Gymraeg a dysgu mwy am eu cefndiroedd nhw hefyd.”
I Tomos mae’r cyfle i siarad Cymraeg gyda Lois, a'r merched fel “darn bach o adra” yng nghanol prysurdeb Bangkok.