Teyrngedau i ffermwr 'heb ei ail' fu farw mewn digwyddiad yn Y Bala
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ffermwr “gweithgar” a “chydwybodol” fu farw mewn digwyddiad yn ardal Y Bala.
Roedd Islwyn Owen, 67 oed o bentref Llanycil, yn “amaethwr heb ei ail ac yn ymfalchïo yn ansawdd ei stoc,” meddai aelod o bwyllgor Sioe Ardal Maesywaen yn ardal y Bala wrth roi teyrnged iddo.
Dywedodd y Cynghorydd lleol, Alan Jones Evans, sy'n cynrychioli Llanuwchllyn dros Blaid Cymru, bod ei farwolaeth yn “andros o golled i’r ardal.”
Roedd yn ei ddisgrifio fel ffermwr “cydwybodol a gweithgar," gan ddweud roedd “pawb yn ‘nabod Islwyn.”
"Roedd yn wyneb cyfarwydd ym mhob sioe amaethyddol a chymdeithas yn yr ardal gyfan, ac mae'r newyddion yn andros o golled i'r ardal leol."
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ddydd Iau eu bod yn trin ei farwolaeth fel un heb esboniad wedi iddyn nhw gael eu galw i fferm yn ardal Y Bala am 20.50 nos Fercher.
Dywedodd y Ditectif brif arolygydd Andy Gibson eu bod yn gweithio ar y cyd gyda’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) er mwyn ceisio canfod yr amgylchiadau a wnaeth arwain at ei farwolaeth.
Mae'r HSE wedi cadarnhau eu bod yn ymwybodol o'r digwyddiad a'u bod ar hyn o bryd yn cynorthwyo Heddlu Gogledd Cymru gyda'u hymholiadau. Mae'r crwner hefyd wedi cael gwybod.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol bore Gwener, dywedodd David Prysor ar ran Pwyllgor Sioe Ardal Maesywaen roedd “tristwch o’r mwyaf… i glywed am y newyddion brawychus o farwolaeth Islwyn Owen, Cefn Bodig.”
“Roedd Islwyn yn aelod gweithgar ymysg trefnwyr y sioe ac un o gefnogwyr mwyaf brwd i weithgareddau'r Sioe o'r dechrau.
“Roedd Islwyn yn amaethwr heb ei ail ac yn ymfalchïo yn ansawdd ei stoc.
“Bydd colled enfawr ar ei ôl,” meddai.
Roedd y Pwyllgor hefyd yn anfon eu “cydymdeimlad twymgalon” at weddw Mr Owen, Margaret, a gweddill ei deulu.