Y cwmni sy'n rhedeg meysydd parcio NCP wedi mynd i'r wal

NCP

Mae'r cwmni sy'n rhedeg meysydd parcio NCP wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, gan roi 682 o swyddi yn y fantol.

Dywed y cwmni fod y busnes wedi dioddef ar ôl cael trafferth llenwi llefydd parcio ers pandemig Covid-19, ac roedd hyn wedi arwain at golledion.

Mae'n un o gwmnïau meysydd parcio mwyaf y DU gyda thua 340 o feysydd parcio i gyd.

Mae'r gweinyddwyr PwC wedi cael eu penodi i edrych ar asedau'r cwmni.

Bydd pob safle’n aros ar agor am y tro a bydd staff yn aros yn eu swyddi tra bod y gweinyddwyr yn ystyried y camau nesaf ar gyfer y busnes.

Mae perfformiad ariannol NCP wedi cael ei daro gan ostyngiad yn y galw am barcio ar ôl Covid, yn enwedig mewn dinasoedd a lleoliadau cymudo, meddai’r cwmni.

Roedd y newid i batrymau cymudo a gyrru defnyddwyr hefyd yn gyfrifol am eu trafferthion, meddal NCP.

Dywedodd y cwmni ei fod yn cael trafferth gyda chostau sy’n gysylltiedig â phrydlesi hirdymor ac anhyblyg ar safleoedd sy’n gwneud colled.

Dywedodd Zelf Hussain, cyd-weinyddwr a phartner gyda PwC: “Mae NCP wedi wynebu amgylchedd masnachu heriol dros sawl blwyddyn, gyda newid mewn ymddygiad defnyddwyr yn effeithio ar niferoedd defnyddwyr, a sylfaen costau sefydlog uchel yn arwain at golledion masnachu.

“Ein blaenoriaeth yw sicrhau parhad gwasanaeth wrth i ni gynnal adolygiad manwl o’r busnes.

“Mae pob safle ar agor, mae staff yn parhau yn eu swyddi, ac mae masnachu’n parhau fel arfer."

Llun: Jonathan Brady/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.