Newyddion S4C

Cynnal gorymdaith yn galw am ysgol newydd i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn Llanelli

07/09/2024

Cynnal gorymdaith yn galw am ysgol newydd i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn Llanelli

Mae angen ysgol newydd i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn ardal Llanelli meddai mam wrth i dros 300 gymryd rhan mewn gorymdaith ddydd Sadwrn yn galw am safle newydd.

Dywedodd Hannah Coles bod ei mab, Sebastian, sy'n wyth oed, wedi dod yn bell diolch i Ysgol Heol Goffa.

Er ei bod yn canmol yr athrawon, mae Hannah yn teimlo nad yw'r adeilad yn addas i'w mab sydd mewn cadair olwyn.

Mae ymgyrchwyr yn dweud bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi torri addewid saith mlynedd yn ôl i ariannu adeilad newydd i ddisgyblion Heol Goffa, ac mae bron i 9,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am gadw at yr addewid gwreiddiol.

Dywedodd y cyngor ym mis Mai nad oes modd bwrw ymlaen gyda’r cynllun oherwydd bod costau adeiladu wedi cynyddu’n sylweddol.  

Dywedodd Cyngor Sir Gâr bod darparu’r “addysg orau” i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn “hollbwysig”, gydag adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal.

Bwriad yr adolygiad hwn yw rhoi opsiynau i'r cyngor ynglŷn â darparu addysg i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn y sir.

Ond yn ôl rhieni plant Ysgol Heol Goffa, mae'r ateb yn glir – mae'n rhaid adeiladu ysgol newydd cyn gynted â phosib.

'Plaster dros dro'

Dywedodd Hannah Coles bod ei mab, Sebastian, sy'n wyth oed, bod Ysgol Heol Goffa yn "anhygoel" ond fod angen safle newydd.

“Mae fy mab wedi bod yn yr ysgol ers pum mlynedd bellach ac wedi dod yn bell iawn,” meddai.

“Mae ganddo anghenion meddygol penodol, felly rwy'n teimlo ei fod yn ddiogel yno oherwydd bod gan y staff arbenigedd mewn bwydo trwy diwb ac epilepsi.

“Maen nhw hefyd wedi dysgu iaith arwyddo iddo, ac maen nhw wedi ei ddysgu i ddefnyddio cyfrifiadur i gyfathrebu – mae'n ysgol anhygoel.”

Er ei bod yn canmol yr athrawon, mae Hannah yn teimlo nad yw'r adeilad yn addas i'w mab sydd mewn cadair olwyn.

“Mae'r cyngor wedi paentio a gosod lloriau newydd yn yr ysgol ond nid yw'n hygyrch o hyd, dim ond plaster dros dro ydyw," meddai. 

“Byddai cael adeilad sy’n hygyrch ym mhob man yn newid byd iddo.”

Image
Seb a'i fam, Hannah
Dywedodd Hannah ei bod yn teimlo nad yw ei mab Sebastian yn cael ei werthfawrogi

Ychwanegodd Hannah ei bod yn teimlo bod y diffyg ysgol addas yn awgrymu nad yw plant fel Sebastian yn cael eu gwerthfawrogi.

“Mae gen i ddau o blant, mab sydd ag anableddau dysgu dwys, a merch niwrodebygol,” meddai.

"Mae fy merch yn mynd i ysgol gynradd Gymraeg newydd sbon – ysgol hardd, eco sy’n fwy hygyrch nag ysgol anabl fy mab.

“Mae’n teimlo braidd yn ableist a discriminatory erbyn hyn.”

Gyda 10 mlynedd ar ôl yn yr ysgol, mae Hannah yn teimlo’n gryf y dylai Sebastian gael ei addysgu mewn adeilad addas.

“Mae angen yr amgylchedd cywir arno i ffynnu, sef ysgol newydd sbon gyda’r adnoddau a therapi y mae’n eu haeddu,” meddai.

Image
Rebecca a Millie
Rebecca Davies a Millie

Problem arall yw bod Ysgol Heol Goffa wedi ei gordanysgrifio.

Mae lle i 75 o ddisgyblion yn yr ysgol, ond mae 124 yno ar hyn o bryd.

Er bod merch Rebecca Davies, Millie, sy'n bedair oed, wedi cael lle yn yr ysgol, nid oes ganddi ddyddiad cychwyn eto.

“Mae hi gartref ar hyn o bryd yn aros am le, a dydyn ni ddim yn gwybod pryd y bydd lle iddi,” meddai.

“Mae’n ymddangos i mi nad yw fy merch yn cael ei gwerthfawrogi yr un fath â fy merch niwrodebygol, dydy hi ddim yn bwysig i Gyngor Sir Gâr.”

Yn ôl Rebecca, mae Millie yn wythfed ar restr aros Ysgol Heol Goffa.

“Do'n i ddim yn meddwl fod hynny'n ddrwg, ond dywedodd mam arall wrthyf ei bod wedi aros pedair blynedd pan oedd ei phlentyn wythfed ar y rhestr,” meddai.

“Nid yw wythfed ar y rhestr yn swnio'n llawer, ond mewn gwirionedd mae'n eithaf arwyddocaol.”

Yn dilyn yr ansicrwydd, mae Rebecca wedi rhoi’r gorau i’w gyrfa 10 mlynedd fel athrawes am gyfnod amhenodol.

Gobaith Rebecca yw y bydd Cyngor Sir Gâr yn dilyn ôl traed cynghorau eraill yng Nghymru.

Cyngor Sir Gâr yw'r unig gyngor yng Nghymru, hyd y gwn i, sy'n mynd yn erbyn y norm

Mae gwaith adeiladu wedi dechrau ar gyfer estyniad gwerth 20 miliwn i ysgol anghenion arbennig ym Mro Morgannwg, meddai.

Rwy'n ymwybodol hefyd fod gan Abertawe ysgol anghenion arbennig ar y ffordd gan eu bod nhw wedi cynyddu eu capasiti.

Ychwanegodd: “Pam fod Cyngor Sir Gâr yn bod yn wahanol? 

“Rwy'n teimlo bod cyfleoedd Millie yn gyfyngedig iawn yma.”

‘Ymroddiad cyn gryfed ag erioed’

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies: “Mae darparu'r addysg orau posib i'n dysgwyr ADY yn hollbwysig i ni fel Cyngor ac i Gorff Llywodraethu Ysgol Heol Goffa.

“Gyda'n gilydd, rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau bod anghenion y plant a'u teuluoedd yn cael eu diwallu, yn y tymor byr - drwy'r buddsoddiad hwn o bron i £0.5 miliwn yn adeilad yr ysgol, ac yn y tymor canolig i'r tymor hir drwy'r adolygiad annibynnol o ddarpariaeth ADY yn Llanelli.

“Rydym wedi gofyn i'r ymgynghorydd annibynnol lunio ystod o opsiynau wedi'u costio i'r Cyngor, i ni eu hystyried. Ein gobaith yw cael yr adroddiad hwn yn y misoedd nesaf, fel y gallwn wneud penderfyniad cyn gynted ag y bo modd.

“Fel sy'n hysbys erbyn hyn, yn anffodus roedd costau adeiladu cynyddol, ffactor sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, yn golygu nad oeddem wedi gallu bwrw ymlaen â'r tendr i adeiladu'r ysgol arbennig arfaethedig ar gyfer Heol Goffa. Yn unol â dymuniad y rhieni, rydym wedi gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth Cymru ariannu'r cynnydd yn y costau adeiladu yn llawn, ond mae'r Llywodraeth wedi cadarnhau na all wneud hynny.

“Mae ein hymroddiad i fuddsoddi i wella'r ddarpariaeth ADY yn Llanelli cyn gryfed ag erioed, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Chorff Llywodraethu Ysgol Heol Goffa er mwyn darparu addysg o'r radd flaenaf i'n dysgwyr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.