'Mae yna rywbeth newydd': Claudia Winkleman yn awgrymu newid i gyfres The Traitors

clogyn coch.jpg

Mae Claudia Winkleman wedi awgrymu ambell i newid "gwirioneddol ryfeddol" yn y gyfres ddiweddaraf o The Traitors a fydd yn dechrau ar Ddydd Calan. 

Mae'r gyfres yn dilyn 22 o bobl ar draws y DU sydd yn cystadlu mewn castell yn yr Alban i geisio ennill hyd at £120,000.

Fe wnaeth fideo ar y cyfryngau cymdeithasol a gafodd ei gyhoeddi Ddydd Nadolig ddangos ffigwr yn gwisgo clogyn coch, a oedd yn wahanol i'r clogyn gwyrdd sy'n cael ei wisgo gan y 'bradwyr' fel arfer. 

"Y cwbl dwi'n ddweud ydi fod yna rhywbeth newydd, ac mae beth sy'n digwydd yn y gyfres yma yn wirioneddol ryfeddol," meddai Claudia Winkleman ar drothwy'r gyfres newydd.

"Alla i ddim aros i bobl ei gweld... mae gan y cynhyrchwyr y meddyliau gorau ar y blaned."

Nid yw'r clogyn coch wedi'i weld mewn cyfresi yn y gorffennol, ac mae dyfalu y gallai rôl newydd fod wedi'i chreu i'r cystadleuwyr eleni.

Yn y cyfresi yn y gorffennol, mae Claudia Winkleman wedi dewis tri bradwr o grŵp o 20 cystadleuydd, ond mae modd i ragor o fradwyr gael eu dewis yn ddiweddarach yn ddibynnol ar ddatblygiad y gêm. 

Mae'r cystadleuwyr eraill yn cael eu hadnabod fel y rhai ffyddlon.

Ychwanegodd Claudia Winkleman: "Dydyn ni erioed wedi'i weld yn cael ei chwarae fel mae'r cast gwych yma'n ei chwarae. Maen nhw'n ei chwarae mewn ffordd mor eithriadol.

"Mae pobl yn meddwl eu bod nhw wedi gweld hyn o'r blaen ond y cyfan y gallaf ei ddweud yw nad yw hyn yn wir o gwbl."

Llun: BBC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.