Newyddion S4C

Glaw trwm yn achosi 'llifogydd erchyll' mewn rhannau o'r de

07/09/2024

Glaw trwm yn achosi 'llifogydd erchyll' mewn rhannau o'r de

Mae glaw trwm wedi achosi llifogydd mewn rhannau o'r de nos Wener.

Daw wrth i werth mis o law syrthio mewn rhai ardaloedd dros nos.

Dioddefodd deg eiddo lifogydd yn Nhŷ Caer Castell, Pen-y-bont ar Ogwr, a chafodd un person ei achub gan ddiffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Fe wnaethon nhw achub cwpl o'u car ar Stryd Lowther, Y Rhath, Caerdydd am 23.00.

Roedd Ffordd Merthyr dan ddŵr yn ardal yr Eglwys Newydd o Gaerdydd, ac fe ddywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod yn ymateb i lifogydd ym Mhort Talbot.

Wrth gyhoeddi fideo o Ffordd Merthyr dan ddŵr ar eu tudalen Facebook, dywedodd cwmni Brook Bistro o'r Eglwys Newydd: “I’r rhai ohonoch chi sydd ddim wedi gallu mynd i Fenis yn ystod yr haf, heno rydyn ni’n dod â Fenis atoch chi.”

Roedd rhybudd melyn mewn grym gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer glaw trwm tan 02:00 ddydd Sadwrn ar gyfer y de.

Dywedodd dyn tywydd BBC Cymru Derek Brockway bod gwerth dros fis o law wedi ei gofnodi ym Mharc Fictoria, Abertawe ddydd Gwener.

Syrthiodd hanner y cyfanswm dyddiol o 87.2mm, 43.8mm, mewn awr rhwng 20.00 a 21.00, meddai.

Daeth adroddiadau bod busnesau wedi dioddef llifogydd ar Stryd Talbot a Stryd yr Eryr ym Mhort Talbot.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymateb i "lifogydd difrifol" ar Stryd Talbot, a bod y ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad.

Roedd y llu yn cynghori pobl i osgoi'r ardal ar y pryd ac roedd disgwyl oedi am gyfnod yno, ond daeth cadarnhad fod y ffordd wedi ail-agor cyn hanner nos nos Wener.

Cyhoeddodd Stephanie Grimshaw, cynghorydd yng Nghastell-nedd Port Talbot, neges ar Facebook nos Wener: “Mae angen i drigolion Aberafan gymryd gofal, mae llifogydd difrifol yn yr ardal.

“Mae bagiau tywod yn cael eu dosbarthu i drigolion."

Dywedodd David Rees AS, yr aelod Llafur o Senedd Cymru dros Aberafan bod amodau dychrynllyd yn yr ardal nos Wener. 

Galwodd ar bobl i gymryd gofal mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn "llifogydd erchyll" mewn rhannau o'i etholaeth.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi ymateb i broblemau o achos dŵr ar ffordd yr A449 rhwng Casnewydd a Brynbuga.

Does dim rhybuddion tywydd newydd gan y Swyddfa Dywydd ddydd Sadwrn, ond maen nhw'n rhagweld rhagor o strormydd mellt a tharannau yn y de ddwyrain.

Dywedodd yr Aelod o Senedd Cymru, Tom Giffard, bod ei gartref wedi dioddef o ganlyniad i lifogydd.

"Trist gweld yr holl gartrefi ar draws de Cymru sydd wedi’u dal yn y glaw trwm a’r llifogydd sydyn neithiwr," meddai.

"Yn anffodus, roedd fy nhy i hefyd yn un ohonyn nhw. Da ni ddim gwybod maint llawn y difrod eto, ond diolch byth mae pawb yn iawn."

Llun: The Brook Bistro

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.