Newyddion S4C

Ymgynghori ar sefydlu Eisteddfod i'r gymuned LHDTC+

20/11/2022

Ymgynghori ar sefydlu Eisteddfod i'r gymuned LHDTC+

Fe allai Eisteddfod i bobl LHDTC+ gael ei chynnal cyn gynted â'r flwyddyn nesaf, wedi i ymgynghoriad gael ei lansio.

Y bwriad yw y byddai'r Eisteddfod "leol" hon yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd yn 2023, gyda'r gobaith i'w symud o gwmpas y wlad yn ystod y blynyddoedd canlynol.

Paned o Gê, siop lyfrau LHDTC+ yng Nghaerdydd, sy'n cynnal yr ymgynghoriad ar-lein yn dilyn trafodaethau gyda'r Eisteddfod Genedlaethol, gyda'r ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Sul.

Daniel Bowen yw Cyfarwyddwr Paned o Gê, sydd â'i gartref yn The Queer Emporium yng nghanol y brifddinas.

"Y tro cyntaf es i â Paned gyda stondin [i'r Eisteddfod Genedlaethol] oedd blwyddyn diwethaf," meddai.

"Dwi'n cofio ges i fy ngwahodd gan yr Eisteddfod a Stonewall Cymru.  So aethon ni lan, naethon ni redeg rhai digwyddiadau llenyddol yn ein pabell ni, tra'n helpu rhaglenni rhai o'r digwyddiadau Mas Ar y Maes. 

"I fod yn deg, pan o'n i 'na, ti'n gw'bod pan ti yng nghanol rhywbeth o'n i ddim cweit wedi sylweddoli yr effaith oedd e 'di cael cyn i rhaglen Mas Ar y Maes fynd mas ar S4C a nes i sylweddoli, na'th pawb joio, na'th pawb dod, na'th pawb fwynhau'r digwyddiadau. 

"So ie, dwi'n rili falch o be' o'n ni 'di 'neud a edrych 'mlaen i fynd i Bodedern blwyddyn nesa'."

Image
Eisteddfod Mas ar y Maes
The Queer Emporium yng nghanol Caerdydd yw cartref y siop lyfrau LHDT+, Paned o Gê.

'Datblygiad cyffrous'

Bydd y dystiolaeth sy'n cael ei gasglu drwy'r ymgynghoriad wedyn yn cael ei rannu gyda'r Eisteddfod Genedlaethol a Chymdeithas Eisteddfodau Cymru i gael ei hystyried.

Dywedodd Daniel wrth Newyddion S4C ei fod yn gobeithio y bydd yr ymgynghoriad yn derbyn tipyn o ymateb er mwyn gallu mesur y diddordeb mewn Eisteddfod LHDTC+.

"Ces i cyfarfod gyda'r Eisteddfod Genedlaethol a naeth nhw cynnig sefydlu Eisteddfod Mas Ar y Maes i bobl LHDTC+ ond cyn 'neud 'ny, cyn i ni 'neud 'na'n swyddogol, mae'n rhaid i ni dangos bod rhyw fath o diddordeb yn gwneud 'ny," meddai.

"So dwi 'di sefydlu Google Form, dwi 'di dosbarthu fo a jyst nawr mae angen i bobl llenwi fo mewn i ddangos i'r byd mae yna awydd i wneud digwyddiad o'r math 'ma."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: “Rydyn ni’n croesawu’r ymgynghoriad i gynnal Eisteddfod Mas ar y Maes.  Mae’n ddatblygiad cyffrous ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth fydd yr ymateb i’r ymgynghoriad.”

Mae disgwyl rhagor o fanylion dros y misoedd nesaf unwaith i ganlyniadau'r ymgynghoriad gael eu hystyried. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.