Newyddion S4C

Vaughan Gething yn cyhoeddi y bydd yn gadael y Senedd adeg yr etholiad nesaf

07/09/2024
Vaughan Gething

Mae cyn Brif Weinidog Cymru Vaughan Gething wedi dweud na fydd yn sefyll eto yn etholiadau Senedd Cymru yn 2026.

Dywedodd na fydd chwaith yn gwasanaethu yng Nghabinet y Prif Weinidog newydd, Eluned Morgan.

Daw ei gyhoeddiad wedi iddo ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru ym mis Awst ar ôl gwasanaethu am 137 diwrnod yn unig.

Mae Vaughan Gething wedi cynrychioli De Caerdydd a Phenarth ers etholiad 2011.

"Rydw i wedi rhoi gwybod i aelodau Plaid Lafur De Caerdydd a Phenarth heddiw am fy mhenderfyniad i beidio sefyll yn etholiadau’r Senedd yn 2026," meddai.

"Mae cefnogaeth yr aelodau lleol yn ystod fy 13 mlynedd fel eu cynrychiolydd wedi bod yn ffynhonnell gyson o gryfder, yn enwedig dros y misoedd diwethaf. 

"Rwy'n falch o fod wedi gwasanaethu gyda nhw ers diwedd y 1990au, fel ymgyrchydd a chynghorydd cyn cael fy ethol i’r Senedd. 

"Rwyf wedi siarad â’r Prif Weinidog i gadarnhau na fyddaf yn ceisio rôl mewn llywodraeth ac y byddaf yn cefnogi ei harweinyddiaeth fel aelod meinciau cefn. 

"Mae Eluned yn was cyhoeddus gwych sydd bob amser yn rhoi ei gwlad yn gyntaf. Rydym wedi cydweithio ers degawdau ac mae hi’n haeddu cefnogaeth i’w gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Cymru ac ar gyfer ein plaid.

"Byddaf yn parhau i wasanaethu’r etholaeth tan 2026 ac yn edrych ymlaen at weithio ar faterion lle y gallaf helpu i hybu achosion cyfiawnder cymdeithasol o'r math a'm denodd at wasanaeth cyhoeddus.

"Fel Cymro a aned yn Zambia, mae wedi bod yn anrhydedd mawr i wasanaethu yn Llywodraeth Cymru ers dros ddegawd. 

"Mae’r cyfle i wneud gwahaniaeth ochr yn ochr ag ysbrydoli pobl a mudiadau, sy’n benderfynol o wneud i newid ddigwydd yn fraint arbennig. 

"Un y byddaf bob amser yn ddiolchgar amdano, ac yn falch ohono."

Ymateb

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: “Mae Vaughan Gething wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol hanesyddol i Gymru o dan rai o’r amgylchiadau anoddaf. 

"O helpu i lywio Cymru drwy’r pandemig a chyflwyno un o'r gweithdrefnau brechu cyflymaf ar y blaned i sicrhau buddsoddiad mawr yn ein diwydiant lled-ddargludyddion. Mae Vaughan wedi cyflawni dro ar ôl tro ac wedi hyrwyddo achos datganoli yng Nghymru.

“Mae wastad wedi bod yn aelod gwych o dîm sydd wedi dangos caredigrwydd a chefnogaeth i mi ac i eraill, hyd yn oed ar adegau o bwysau aruthrol yn y swyddi y mae wedi’u cyflawni dros bobl Cymru.

“Rydw i’n gwybod y bydd Vaughan yn mynd ymlaen i wneud cyfraniadau pwysig i’n gwlad ni yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

“Diolch Vaughan am bopeth rwyt ti wedi neud dros ein gwlad.”

Y cefndir

Ymddiswyddodd Vaughan Gething o fod yn Brif Weinidog ar ôl bod dan bwysau wedi iddo dderbyn rhoddion o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch arweinyddol gan gwmni oedd â pherchennog oedd wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol.

Cafodd Mr Gething hefyd ei feirniadu am ei benderfyniad i sacio'r gweinidog Hannah Blythyn o'i swydd yn y llywodraeth, wedi honiadau bod gwybodaeth wedi ei ryddhau i'r wasg, a hynny heb ddangos unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r penderfyniad.

Ym mis Gorffennaf fe wnaeth pedwar aelodau o'i gabinet ei hun ymddiswyddo gan alw arno i "fynd yn syth".

Dywedodd Mick Antoniw, Jeremy Miles, Julie James a Lesley Griffiths eu bod nhw'n camu i lawr o'r cabinet.

Cyhoeddodd Vaughan Gething yr un diwrnod y byddai yn camu o'r neilltu cyn gynted ag oedd olynydd yn ei le.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.