Enw Cymraeg i un o brif gymeriadau ffilm newydd Lord of the Rings
Mae gan un o brif gymeriadau ffilm newydd y gyfres Lord of the Rings enw Cymraeg.
Fe fydd y ffilm diweddaraf yn y gyfres, The Lord of the Rings: The Hunt For Gollum, yn cynnwys ‘elf’ o’r enw Seren.
Roedd y Gymraeg yn ysbrydoliaeth i iaith Sindarin J.R.R. Tolkien, awdur Lord of the Rings, ond dyma’r tro cyntaf i gymeriad yn y gyfres ffilmiau gael enw Cymraeg cyffredin.
Fe fydd Taylor-Joy yn chwarae rhan Seren, Elf Sindar o Deyrnas y Coed, sy’n cael ei disgrifio fel un o ellyll “dibynadwy y Brenin Thranduil”.
Mae Taylor-Joy yn ymuno â chast o actorion newydd, gan gynnwys Kate Winslet fel Marigol, Jamie Dornan fel Strider, a Leo Woodall fel Halvard.
Mae’r ffilm newydd wedi ei chyfarwyddo gan Andy Serkis, sydd hefyd yn dychwelyd i chwarae rhan Gollum.
Bydd Ian McKellen hefyd yn dychwelyd i chwarae rhan Gandalf, Elijah Wood yn chwarae rhan Frodo unwaith eto, a Lee Pace yn actio’r Brenin Thranduil o gyfres ffilmiau The Hobbit.
Mae Taylor-Joy eisoes wedi ymddangos yn rhai o ffilmiau mwyaf blaenllaw Warner Bros., gan gynnwys ‘Furiosa’ - y rhagflaenydd i ‘Mad Max: Fury Road’ - a ffilmiau ‘Dune’.
Nid dyma’r cysylltiad amlwg cyntaf cyfres Tolkien ym myd ffilm a teledu gyda’r iaith Gymraeg. Yn ddiweddar mae'r siaradwyr Cymraeg Morfydd Clark, Owain Arthur a Trystan Gravelle wedi serennu yn y gyfres teledu The Rings of Power.
Llun: Anya Taylor-Joy gan Gage Skidmore.