Wyth wedi marw wedi i awyren fomio B-52 syrthio i’r ddaear yn nhalaith California

Safle'r digwyddiad

Mae wyth o bobl wedi cael eu lladd ar ôl i awyren fomio B-52 Llu Awyr yr Unol Daleithiau syrthio i’r ddaear ar ôl esgyn o Ganolfan Edwards yn nhalaith California.

Bu farw dau o weithwyr Boeing yn y digwyddiad am 11:20 amser lleol (19:20 GMT) ddydd Llun tra'r oedd yr awyren ar daith brawf arferol. 

Roedd mwg du i’w weld am filltiroedd o amgylch safle'r digwyddiad.

“Fe brofodd Canolfan Llu Awyr Edwards drasiedi ofnadwy heddiw, ac fe gollon ni wyth Americanwr gwych,” meddai’r Cyrnol James Hayes ar ran y ganolfan.

Dywedodd eu bod nhw'n “griw cymysg o aelodau’r lluoedd arfog, sifiliaid y llywodraeth a chontractwyr y llywodraeth”.

Mae perthnasau agosaf y criw wedi cael gwybod, a bydd enwau’r rheini a fu farw yn cael eu cyhoeddi 24 awr ar ôl hynny, meddai James Hayes.

Roedd y B-52 wedi syrthio i’r ddaear yn syth ar ôl esgyn cyn ffrwydro’n fflamau, meddai, ac “nid oedd modd goroesi” yr hyn ddigwyddodd.

Fe allai ymchwiliadau i ddadansoddi beth achosodd y digwyddiad gymryd mwy na chwe mis, meddai y Cyrnol Hayes.

Mewn datganiad ar wahân, cadarnhaodd Boeing fod dau o’u gweithwyr ymhlith y bobl oedd ar yr awyren, a bod y cwmni mewn cysylltiad â’u teuluoedd. 

Mewn neges ar X, galwodd Llywodraethwr California, Gavin Newsom, y ddamwain yn “ddigwyddiad trasig” a chynigiodd ei gydymdeimlad i deuluoedd y dioddefwyr a chymuned Canolfan Llu Awyr Edwards.

Mae’r awyren Boeing B-52 Stratofortress wedi cael ei ddefnyddio gan fyddin yr Unol Daleithiau ers y 1950au.

Llun gan X/@RichhdaRuler

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.