Cynnal pleidlais gudd i ethol Esgob newydd Bangor
Bydd cynrychiolwyr o bob rhan o’r Eglwys yng Nghymru yn ymgynnull yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno, ddydd Mawrth i gymryd rhan mewn pleidlais gudd i ethol Esgob nesaf Bangor.
Bydd Coleg Etholiadol o 46 aelod yn cyfarfod i weddïo, myfyrio, “a dirnad pwy y mae Duw yn ei alw i wasanaethu fel yr esgob nesaf," meddai'r eglwys.
Byddant yn ystyried rhestr gyfrinachol o ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.
Mae’r Coleg yn dilyn ymddeoliad cyn Esgob Bangor ac Archesgob Cymru Andrew John ym mis Awst 2025.
Yr esgob newydd fydd yr 82ain i ddwyn teitl Esgob Bangor, ac fe fydd yn gwasanaethu esgobaeth sydd yn ymestyn o Ynys Môn i Benrhyn Llŷn.
Mae’r Coleg Etholiadol yn cynnwys cynrychiolwyr clerigol a lleyg o bob un o chwe esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru, ynghyd â holl esgobion yr esgobaethau.
“Mae pob trafodaeth yn gyfrinachol,” meddai’r eglwys.
“Bydd ymgeiswyr yn cael eu cyfweld wyneb yn wyneb yn ystod y cyfarfod, eu trafod, ac yna pleidleisir arnynt drwy bleidlais gudd.
“Caiff unrhyw ymgeisydd sy’n derbyn cefnogaeth dwy ran o dair o’r rhai sy’n bresennol ac yn pleidleisio ei ddatgan yn esgob-ethol.
“Os na fydd unrhyw ymgeisydd yn cyrraedd y trothwy hwn, bydd y Coleg yn dychwelyd at y cam enwebu, a bydd y broses yn parhau.
“Gall y Coleg eistedd am hyd at dri diwrnod yn olynol.
“Unwaith y bydd penderfyniad wedi’i wneud, bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud wrth ddrws Eglwys y Drindod Sanctaidd.”
Yn dilyn yr etholiad, bydd gan yr esgob-etholedig hyd at 28 diwrnod i dderbyn y swydd. Os bydd yn gwneud hynny, bydd yr etholiad yn cael ei gadarnhau’n ffurfiol mewn cyfarfod o’r esgobion mewn Synod Sanctaidd.
Bydd y Coleg Etholiadol yn dechrau ar 16 Mehefin gyda dathliad o’r Cymun Bendigaid. Ar ôl y gwasanaeth hwn, bydd yr eglwys ar gau drwy gydol y broses benderfynu.
Y cefndir
Dyma’r ail ymgais i benodi esgob newydd i Fangor ers ymddeoliad Andrew John.
Ym mis Chwefror dywedodd Archesgob Cymru, Cherry Vann, na fyddai hi’n yn "bwrw ymlaen" â'r broses o benodi esgob dros dro ar gyfer yr esgobaeth.
Daeth hynny ar ôl proses o gynnal cyfweliadau, meddai.
Dywedodd Archesgob Cymru, Cherry Vann, bryd hynny bod "rhaid i unrhyw broses o ddirnad fod yn agored i’r posibilrwydd nad yw’n briodol bwrw ymlaen yn y ffordd yr oeddem wedi gobeithio”.
"Dyna sydd wedi digwydd ar yr achlysur hwn, ac felly ni fyddwn yn bwrw ymlaen â phenodi esgob dros dro,” meddai.
"Yn hytrach, rwy’n mynd i ofyn i Bwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethu ailgychwyn proses y coleg etholiadol."
Wrth hysbysebu y swydd am yr eilwaith dywedodd yr Eglwys yng Nghymru bod yr esgobaeth wedi “bod drwy’r felin” dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae'r esgobaeth yn codi unwaith eto ar ei thraed ar ôl yr anawsterau a brofwyd, ac er y bydd rhan bwysig o weinidogaeth yr esgob newydd yn sensitif i'r angen am ofal parhaus i'r rhai sydd wedi'u cleisio gan ddigwyddiadau diweddar, mae'r angen am obaith a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn hollbwysig,” meddai manyldeb yr hysbyseb swydd.
Daw hyn ar ôl cyfnod cythryblus i'r Gadeirlan a'r Esgobaeth, gydag adroddiadau o gamymddwyn a arweiniodd at ymddeoliad sydyn Esgob Bangor ac Archesgob Cymru, Andy John, ddiwedd mis Mehefin y llynedd.
Does dim awgrym bod y cyn-Archesgob ei hun wedi camymddwyn.
Ym mis Medi y llynedd dywedodd llefarydd fod y sefydliad yn wynebu diffyg ariannol gweithredol o £300,000 erbyn diwedd 2025, a'u bod yn cynnal ymgynghoriad ar ddiswyddiadau posibl.
Yna fe gyhoeddwyd adroddiad ym mis Mawrth eleni oedd yn edrych ar waith dwy elusen o fewn yr Esgobaeth, sef Bwrdd Cyllid Esgobaethol Bangor (BCEB) ac Ymddiriedolaeth Esgobaethol Bangor (YEB).
Roedd yr adroddiad hwnnw yn disgrifio "dirywiad llywodraethiant da a phrosesau priodol o fewn yr elusennau dros gyfnod o bum mlynedd neu fwy”.
Daw'r adroddiad i'r casgliad y dylai'r elusennau hyn "fod wedi’u harwain gan leygwyr, a dylai’r BCEB fod wedi gweithredu fel gwrthbwysedd a chyfaill beirniadol i ffocws gweinidogaethol yr Esgob."
"Collwyd y tensiwn cadarnhaol hwnnw, a chollodd byrddau’r ymddiriedolwyr olwg ar eu swyddogaeth a’u pwysigrwydd," meddai awduron yr adroddiad, sef Jim Clifford OBE ac Alice Hulbert o Sonnet Advisory & Impact, arbenigwyr ym maes elusennau.
Roedd yr adroddiad yn cydnabod bod "cynnydd sylweddol wedi’i wneud i unioni’r sefyllfa" erbyn hyn.