Cynnal cynhadledd i gefnogi'r sector dai wrth iddynt ddod o dan Safonau'r Gymraeg

tai

Fe fydd cymdeithasau tai yn cael y cyfle ddydd Mawrth i "ddeall yn well" yr hyn y bydd gofyn iddyn nhw wneud wrth i'r sector dai ddod o dan Safonau'r Gymraeg, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg. 

Dyma'r sector ddiweddaraf i ddod o dan y Safonau a hynny wedi cymeradwyaeth gan Senedd Cymru.

Fe fydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yn Llandrindod ym Mhowys ddydd Mawrth, gyda chyfraniadau gan sefydliadau sydd eisoes yn gweithredu’r Safonau a chyflwyniadau gan aelodau o swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

Dywedodd Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg a Chyfarwyddwr Rheoleiddio, mai'r bwriad yw sicrhau fod pawb yn glir o’r dyletswyddau statudol.

'Amrywiaeth sylweddol'

"Rydym yn croesawu’r cam diweddaraf hwn o ddod â’r sector dai, sydd yn darparu gwasanaethau allweddol ar draws Cymru, o dan ddarpariaethau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011," meddai.

"Rydym yn ymwybodol fod yna amrywiaeth sylweddol yn y gwasanaethau Cymraeg gaiff eu darparu gan y cymdeithasau tai ar hyn o bryd. Ein nod gyda’r gynhadledd heddiw yw sicrhau bod dealltwriaeth glir o ofynion y Safonau, a bod y sector yn paratoi yn effeithiol at gydymffurfio. Gallwn wedyn ddatblygu ffyrdd penodol o gefnogaeth wedi eu teilwra i anghenion y sector.

Ychwanegodd: "Nod y Safonau yw sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru, gyda’r bwriad o arwain at well gwasanaethau a chynnydd gwirioneddol yn y cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg."

Cartrefi Cymunedol Cymru yw'r sefydliad aelodaeth ar gyfer cymdeithasau tai. 

Dywedodd dirprwy brif weithredwr y sefydliad, Clarissa Corbisiero: "Mae cymdeithasau tai wedi ymrwymo i gyfathrebu â phobl yn eu dewis iaith ac maent yn awyddus i gydweithio â Chomisiynydd y Gymraeg i weithredu Safonau'r Gymraeg yn effeithiol. 

"Mae'r digwyddiad hwn heddiw yn gyfle defnyddiol a phwysig er mwyn gallu trafod y cyfleoedd a'r heriau sydd o'n blaenau." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.