Bonnie Tyler allan o goma

Bonnie Tyler
Mae'r gantores Bonnie Tyler allan o goma ar ôl iddi gael ei tharo'n wael ddechrau mis Mai. 
 
Cafodd ei rhoi mewn coma gan feddygon mewn ysbyty ger ei chartref yn Faro, Portiwgal, ar ôl iddi gael ei rhuthro yno oherwydd problemau yn ymwneud â'i pherfedd. 

Bu'n rhaid iddi gael llawdriniaeth.

Roedd y gantores sy'n hanu o Sgiwen ger Castell-nedd i fod i ganu mewn cyngherddau ar hyd a lled Ewrop yn ddiweddarach eleni i nodi 50 mlynedd ers iddi gyhoeddi ei sengl lwyddiannus gyntaf Lost In France, gydag un cyngerdd wedi ei drefnu yng Nghaerdydd.

Mewn datganiad ar wefan y seren ddydd Llun, mae llefarydd ar ei rhan yn nodi nad yw hi mewn coma bellach, ond ei bod yn dal i fod yn sâl iawn, ac mewn uned gofal dwys mewn ysbyty ym Mhortiwgal. 

"Er bod ei chyflwr yn gwella, mae'n broses araf," meddai'r neges. 

"Mae ei meddygon yn dal i fod yn hyderus y bydd hi'n gwella'n dda, ond mae hynny yn mynd i gymryd amser." 

Mae'r llefarydd wedi diolch i gefnogwyr Bonnie Tyler am eu "cariad a'u cefnogaeth." 

Mae'r datganiad hefyd yn ymddiheuro am y newidiadau i'r amserlen ar gyfer ei chyngherddau yr haf hwn. 

"Rydym yn ymddiheuro i holl gefnogwyr Bonnie ac i'n partneriaid hyrwyddo am y siom y bydd hyn yn ei achosi, ond rydym yn gobeithio y byddwch yn deall, ac yn amyneddgar â ni yn ystod yr amgylchiadau anodd hyn."    

"Rydym yn gobeithio y gwelwn ni chi y flwyddyn nesaf," meddai'r neges. 

Cafodd Bonnie Tyler ei geni yn Gaynor Hopkins yn 1951.

A hithau wedi ei magu gyda chariad at gerddoriaeth, cafodd ei darganfod gan y sgowt Roger Bell mewn clwb yn Abertawe.

Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei chân boblogaidd Total Eclipse Of The Heart yn 1983, a ddaeth yn Rhif 1 yn y siartiau.

Roedd ganddi bedair cân boblogaidd arall yn y deg uchaf, gan gynnwys It’s A Heartache a Holding Out For A Hero.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.