Sir Dinbych: Dyn yn gwadu llofruddio'i gymydog ar Ddydd Nadolig

Harry Turner

Mae llys wedi clywed recordiad sain o ymosodiad honedig gan gymydog ar ddyn a fu farw yn 68 oed ar Ddydd Nadolig y llynedd.

Mae James Hughes, 67 oed, wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth ei gymydog Harry Turner, yn eu llety gwarchodedig yn Llanelwy, Sir Ddinbych.

Mae Hughes yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth a chyfrif amgen (alternative charge) o ddynladdiad.

Ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn Llys y Goron Caernarfon, clywodd y rheithgor Hughes yn dweud wrth Mr Turner, “Gallet ti farw, tydi o ddim bwys i mi,” wrth i recordiad sain tri munud o hyd oddi ar ddictaffon gael ei chwarae.

Clywodd y llys mai geiriau olaf Mr Turner oedd, “alla' i ddim”.

Dywedodd KC John Hipkin ar ran yr erlyniad bod Hughes yn gwisgo dictaffon a’i fod wedi lladd Mr Turner mewn modd “oeraidd ac a oedd wedi’i gynllwynio”.

Dywedodd Mr Hipkin: “Fe wnaeth James Hughes atal Harold Turner rhag anadlu a’i ergydio sawl tro gyda ffon gerdded tra ei fod ar ei ben o”.

Roedd y ddau ddyn yn byw drws nesaf i’w gilydd mewn llety gwarchodedig yn Llanelwy.

“I ddechrau, roedd eu perthynas yn dda, roedd Harold Turner hyd yn oed yn mynd â chi James Hughes am dro," meddai Mr Hipkin.

“Fodd bynnag, fe ddaeth hynny i ben ac fe wnaeth y berthynas ddirywio. Fe wnaeth hyn arwain at Mr Turner yn rhoi gwybod i Gymdeithas Tai Adra fod Mr Hughes i Gymdeithas Tai Adra yn swnllyd ym mis Tachwedd, honiad na wnaeth James Hughes ei dderbyn.

“Cwynodd Mr Turner bod Mr Hughes yn ei gadw’n effro drwy’r nos drwy daro’r wal yr oeddent yn ei rannu gyda’i ffon gerdded.

“Erbyn y Nadolig, fe fyddai modd disgrifio’r berthynas fel ffrae. Erbyn bore diwrnod Nadolig, fe gyrhaeddodd Mr Turner ben ei dennyn.”

Fe drefnodd ffrindiau Mr Turner iddo aros mewn gwesty am nad oedd yn gallu cysgu yn ei fflat. Ond fe adawodd neges ar y ffôn i Hughes yn ei rybuddio y byddai yn “ei gael”. Ffoniodd Hughes yr heddlu.

Mewn neges ffôn arall, fe wnaeth Mr Turner rybuddio swyddog Adra y byddai “rhywbeth drwg” yn digwydd pe na bai yn gallu gadael y sefyllfa.

Image
Llys y Goron Caernarfon
Llys y Goron Caernarfon

Dydd Nadolig

Am tua hanner dydd ar ddydd Nadolig, daeth y ddau ddyn at ei gilydd yn y coridor y tu allan i’r fflat Hughes. Clywodd y rheithgor Hughes yn dweud wrth Mr Turner ei fod yn “rhy feddw i gwffio” ar y recordiad.

Yna roedd y diffynydd yn honedig wedi dringo war ben Mr Turner, oedd yn methu anadlu ac yn pledio gyda Hughes i fynd oddi arno.

Clywodd y rheithgor eiriau olaf Mr Turner tua 90 eiliad i mewn i’r recordiad.

Dywedodd Mr Hipkin bod Hughes wedi taro Mr Turner gyda’i ffon tua dau funud a 17 eiliad i mewn i’r recordiad, cyn codi a dychwelyd i’w fflat.

Yna ffoniodd Hughes ei nai, gan ddweud: “Rwy’n meddwl fy mod i wedi lladd rhywun.”

Cafodd y gwasanaeth ambiwlans eu galw gan Hughes 23 munud ar ôl iddo ddychwelyd i’w fflat. Cyrhaeddodd yr heddlu a cheisio achub Mr Turner, cyn iddo gael ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd Mr Hipkin fod yr anafiadau’n gyson â “thrawma grym pŵl” (blunt force trauma) a bod yna arwyddion o asffycsia.

Dywedodd Hughes wrth yr heddlu fod Mr Turner wedi “dod allan yn chwifio’i ddyrnau,” ac fe lwyddodd i’w rhwystro. Pan aeth ei gymydog fynd yn anymwybodol, nid oedd yn gwybod a oedd yn “ffugio".

Ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i’r recordiad, dywedodd Hughes fod yr honiad o daro ar waliau yn un ffug.

“Dywedodd bod ei sylw na fyddai’n poeni pe byddai Harold Turner yn marw wedi ei ddweud yn y foment yn unig,” meddai’r erlynydd.

“Nid achos o hunan-amddiffyn yw hwn o gwbl, ond penderfyniad i ladd,” ychwanegodd.

Dywedodd yr amddiffynnydd KC Gordon Cole wrth y rheithgor bod amddiffyniad Hughes ei fod yn hunan-amddiffyn, yn ogystal â chyflwr ei feddwl ar y pryd yn “faterion oedd yn ganolog” i’r achos.

Mae’r achos yn parhau.

Llun: Harry Turner

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.