15 o adroddiadau am ‘gathod mawr’ yng Nghymru ers 2020

Puma, Llewpard a Lynx

Mae panther, llewpart, a chath maint piwma ymysg yr adroddiadau am “gathod mawr” honedig yng Nghymru ers 2020.

Mae dogfennau sydd wedi eu cyhoeddi yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi cofnodi 15 o adroddiadau rhwng Ionawr 2020 a Gorffennaf 2025.

Ond er bod nifer yr achosion wedi eu cofnodi gan swyddogion, does yr un ohonyn nhw wedi eu cadarnhau fel cath fawr.

Doedd dim tystiolaeth gorfforol wedi ei darparu mewn unrhyw achos.

Cafodd achosion eu cofnodi mewn sawl rhan o Gymru, gan gynnwys Sir Benfro, Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Sir Ddinbych.

Mewn un achos ger Capel Bangor, Aberystwyth ym mis Mai 2023, dywedodd gyrrwr ei fod wedi gweld cath fawr ddu yn glanio ar y ffordd o’i flaen ar ôl dod dros glawdd.

Roedd yr anifail, yn ôl yr adroddiad, yn "ddu fel y frân" gyda chôt fer a llyfn, cynffon hir, a chorff cyhyrog maint ci labrador.

Dywedodd yr unigolyn ei fod wedi chwilio ar-lein am yr hyn roedd wedi ei weld, ac y byddai’n ei ddisgrifio fel panther.

Ond doedd dim adroddiadau eraill na digwyddiadau o ymosodiadau ar dda byw yn yr ardal, ac ni chafodd unrhyw gamau pellach eu cymryd gan Lywodraeth Cymru.

Mewn achos arall yng Nghwmtwrch, Abertawe ym mis Ionawr 2023, fe wnaeth rhywun adrodd eu bod wedi gweld llewpart gyda smotiau yn cerdded o gwmpas ei ardd.

Cafodd neges ei gadael i’r unigolyn gysylltu â swyddogion er mwyn trafod yr achos ymhellach, ond ni ddaeth ymateb.

Ger pentref Trefnant, Sir Ddinbych ym mis Hydref 2023, dywedodd aelod o’r cyhoedd ei fod wedi gweld cath maint piwma yn cysgu ar gangen mewn coedwig.

Ond ar ôl edrych ar lun a fideo, roedd swyddogion yn amau nad oedd yr anifail fel un go iawn, gan ddweud bod ei glustiau’n rhy grwn ac yn debycach i "dedi bêr" neu degan wedi ei stwffio.

Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru ymchwilio i’r achos, cyn cadarnhau nad oedd yn gath fawr go iawn.

Mewn achos yng Ngeinws ger Machynlleth yn 2020, cafodd fideo o gath ddu mewn gardd ei anfon at Sw Caer i’w ddadansoddi.

Daeth y sw i’r casgliad mai cath ddomestig oedd yr anifail.

Yn Aberhonddu yn 2023, fe wnaeth cwpl adrodd eu bod wedi clywed sŵn dwfn ac isel y tu allan i’w cartref, oedd yn debyg i sŵn cath fawr.

Ond awgrymodd tîm bywyd gwyllt Llywodraeth Cymru mai ceirw oedd yn fwy tebygol o fod yn gyfrifol am y sŵn, gan fod y tymor paru ar y pryd.

Mewn achos ym Mhont Henri, Sir Gaerfyrddin, ar 13 Mai 2025, derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys adroddiad gan rywun oedd yn honni eiddyn nhw weld Lyncs o Ganada. Ni chymerodd Llywodraeth Cymru unrhyw gamau pellach.

Ac ym mis Gorffennaf 2025, cafodd fideo ei anfon at Lywodraeth Cymru ar ôl adroddiad am ddwy gath fawr ddu mewn cae ger Porthclais, Tyddewi, Sir Benfro.

Daeth y tîm bywyd gwyllt i’r casgliad mai llwynogod oedd yr anifeiliaid.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad oes ganddyn nhw bolisi ffurfiol ar adroddiadau o weld cathod mawr, gan nad oes gofyniad i bobl roi gwybod iddyn nhw am achosion o’r fath.

Ond maen nhw'n cofnodi adroddiadau o weld cathod mawr honedig, ac ymosodiadau honedig ar dda byw.

Fe allant ymchwilio ymhellach os oes tystiolaeth gorfforol yn cael ei darparu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai mater i’r heddlu yw unrhyw fygythiad i fywyd dynol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.