'Roedden ni'n meddwl y byddai llofruddiaeth Jo Cox yn newid pethau - nath o ddim'
Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi dweud iddi gredu y byddai llofruddiaeth yr AS Llafur Jo Cox yn 2016 yn newid natur gwleidyddiaeth ym Mhrydain, ond bod y drafodaeth gyhoeddus wedi mynd yn "llawer mwy ffiaidd" ers hynny.
Daw sylwadau Liz Saville-Roberts wrth i wleidyddion ar draws y DU nodi degawd ers marwolaeth Jo Cox, a gafodd ei llofruddio gan eithafwr asgell dde wrth iddi gyrraedd cymhorthfa etholwyr yn Birstall, ger Leeds, ar 16 Mehefin 2016.
Cafodd Ms Cox, a oedd yn 41 oed ac yn fam i ddau o blant ifanc, ei lladd wythnos cyn refferendwm Brexit.
Dywedodd Olivia Field, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Jo Cox, bod y dirwedd wleidyddol wedi dod yn fwy rhaniadol dros y degawd diwethaf.
"Mae cam-drin gwleidyddol wedi’i normaleiddio i ryw raddau a menywod a lleiafrifoedd ethnig sydd wedi’u heffeithio fwyaf," meddai. "Nid yw ein gwaith fel sefydliad i wella parch o fewn gwleidyddiaeth erioed wedi bod yn bwysicach."
Dywedodd Ms Saville-Roberts, sydd wedi wynebu camdriniaeth a bygythiadau yn ystod ei gyrfa wleidyddol, ei bod hi a Ms Cox yn rhan o'r un garfan o ASau newydd a gafodd eu hethol i San Steffan yn 2015.
Er ei bod yn cydnabod bod diogelwch gwleidyddion wedi gwella'n sylweddol dros y degawd diwethaf, mae'n credu bod y diwylliant ehangach wedi gwaethygu.
"Roedden ni'n meddwl y byddai hyn [llofruddiaeth Jo Cox] yn ffrwyno ni'n ôl," meddai wrth Newyddion S4C.
"Byddai yn ffasiwn sioc, bod yna ddynes ifanc, mam ifanc wedi cael ei lladd, a byddai'n newid ein hymddygiad, neu newid ymddygiad pobl fel [Nigel] Farage.
"Ond nath o ddim, dydi o’m ‘di newid nhw dim - mae 'di dod yn fwy derbyniol i ni ddefnyddio termau sydd yn annog trais."
'Ffiaidd'
Dywedodd Ms Saville-Roberts fod Senedd San Steffan a'r heddlu bellach yn cynnig llawer mwy o gymorth a diogelwch i ASau nag oedd yn bodoli cyn 2016.
Mae trefniadau diogelwch mewn cartrefi a swyddfeydd wedi cynyddu'n sylweddol, meddai, ac mae ymateb yr awdurdodau i fygythiadau yn gyflymach.
Ond ar yr un pryd, mae hi'n credu bod y gofod lle mae gwleidyddiaeth yn cael ei drafod wedi symud fwyfwy ar-lein, gyda chanlyniadau niweidiol.
"Mae'r disgwrs ar X yn bennaf... ond dw i wedi gweld lefel y drafodaeth a'r hyn mae pobl yn barod i ddweud wedi mynd yn llawer mwy ffiaidd," meddai.
Er hynny, dywedodd ei bod yn credu ei bod yn bwysig i wleidyddion barhau i gwrdd ag etholwyr wyneb yn wyneb.
"Mae ymbellhau yn ddrwg i gymdeithas," meddai Ms Saville-Roberts.
"Mae meithrin ymddiriedaeth mewn cymdeithas yn rhan o’n rôl ni.
"Felly mae yna balans o hyd am fod yn ddiogel, ond hefyd yn bod yn wyneb blaen sydd yn rhoi gwerth ar y ffaith o fod yn barod i gwrdd â phobl."
Dywedodd yr AS dros Ddwyfor Meirionnydd ei bod yn fwy pryderus am fygythiadau sy'n targedu teuluoedd a staff gwleidyddion nag am ei diogelwch ei hun.
"Dwi'n meddwl yr hyn sy'n fy nghorddi i mwy byth ydy'r syniad fod pobl yn bygwth fy nghartref i, sef fy nheulu i, sydd ddim wedi gofyn am ddim o hyn," meddai.
"A'r un fath efo bygythiadau staff, achos maen nhw hefyd allan yn y gymuned lle maen nhw’n byw a lle bynnag mae’r swyddfa."
Mae hi hefyd yn credu bod menywod mewn gwleidyddiaeth yn cael eu targedu’n benodol.
Yn ôl astudiaeth gan yr Inter-Parliamentary Union a Chynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, dywedodd 85% o'r menywod a gymerodd ran mewn arolwg ar draws 45 o wledydd Ewrop eu bod wedi profi trais seicolegol yn ystod eu gyrfa wleidyddol.
Yr wythnos diwethaf yn unig, gofynnodd cyn arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, i bobl roi'r gorau i'w thargedu ar-lein.
"Dydw i ddim wedi gweithio fel gwleidydd ers dros bum mlynedd bellach," meddai mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Gall y bobl hynny sy'n postio sylwadau anghwrtais, bygythiol a sarhaus oherwydd eich bod chi'n meddwl fy mod i'n wleidydd, stopio os gwelwch yn dda?
"Yn ddelfrydol, stopiwch eich holl negeseuon cas a bwlio. Iechyd da."
Mae Ms Saville-Roberts yn feirniadol o rôl cyfryngau cymdeithasol yn y drafodaeth wleidyddol.
Wrth gyfeirio at Elon Musk a'i berchnogaeth o X, dywedodd: "Nid rhyddid llefarydd ydi o, ond mae'n rhoi rhyddid i fygwth."
Mae cyfrifon dienw, camwybodaeth a datblygiadau fel deallusrwydd artiffisial a deepfakes yn bygwth ansawdd y drafodaeth ddemocrataidd, ychwanegodd.
"Fel cymdeithas 'da ni angen arfogi ein hunain i wybod pa ffynonellau sy'n ymdrechu i ddweud y gwir," meddai.
Ychwanegodd fod angen ailadeiladu'r cysylltiad rhwng gwleidyddiaeth a'r cyhoedd.
"Da ni angen i bobl fedru teimlo bod gyda nhw ddweud yn eu bywydau nhw," meddai.
"Ac hefyd i ni ddysgu sut 'da ni'n anghytuno efo'n gilydd yn waraidd, achos dydyn ni ddim yn cytuno gyda’n gilydd trwy’r amser."
Mae Sefydliad Jo Cox wedi galw am "ymdrech o'r newydd i ddod â phobl ynghyd" er cof am yr AS Llafur, gan gyfeirio at ei geiriau o undod - "i gofio bod gennym fwy yn gyffredin na'r hyn sy'n ein rhannu".