Timau Cymru i ddarganfod eu gwrthwynebwyr yn Ewrop
Fe fydd timau Cymru yn darganfod eu gwrthwynebwyr ar gyfer gemau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr a Chyngres UEFA ddydd Mawrth.
Fe wnaeth y ddau dîm uchaf yn y Cymru Premier JD y tymor hwn, sef Y Seintiau Newydd a Chei Connah, yn ogystal ag enillwyr Cwpan Cymru, Caernarfon, sicrhau eu lle'n Ewrop ar gyfer y tymor nesaf ym mis Ebrill.
Fe aeth y pedwerydd tocyn Ewropeaidd i enillwyr y gemau ail-gyfle, sef Penybont.
Y Seintiau Newydd fydd yn cynrychioli'r Cymru Premier JD yng Nghynghrair y Pencampwyr, gyda Phenybont, Cei Connah a Chaernarfon yn cystadlu yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres UEFA.
Pe bai'r Seintiau Newydd yn ennill eu gêm nhw, fe fyddan nhw'n mynd yn eu blaenau i'r ail rownd ragbrofol yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Os ydyn nhw'n colli'r gêm, fe fyddan nhw'n symud i ail rownd ragbrofol Cyngres UEFA.
Os ydi Cei Connah, Penybont a Chaernarfon yn ennill eu gêm gyntaf nhw yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres UEFA, fe fyddan nhw'n mynd ymlaen i'r ail rownd ragbrofol.
Ond os ydyn nhw'n colli, fe fyddan nhw allan o Ewrop.
Bydd cymal cyntaf rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei chwarae ar 7 neu 8 Gorffennaf, gyda gemau cyntaf Cyngres UEFA yn cael eu chwarae ar 9 Gorffennaf.