£55m ychwanegol eleni tuag at gynlluniau gofal plant llywodraeth Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi y bydd £55m ychwanegol yn cael ei wario eleni fel rhan o “gam sylweddol” tuag at wireddu eu cynlluniau gofal plant.
Mae’r blaid wedi dod dan bwysau ers etholiad mis Mai i egluro sut y bydd yn gallu fforddio ehangu gofal plant ar gyfer plant rhwng naw mis a phedair oed.
Roedd yr addewid i wneud hynny yn rhan ganolog o faniffesto ac ymgyrch etholiadol y blaid sydd bellach mewn grym yng Nghymru.
Dywedodd Sioned Williams, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, sy'n gyfrifol am ofal plant bod y £55m yn rhan o “gyflwyniad graddol”.
Bydd yn rhan o gyllideb atodol gyntaf y blaid, sydd i fod i gael ei chyhoeddi ar 23 Mehefin.
Roedd yn “rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU,” meddai.
Bydd y cyllid hwn yn helpu i gyflymu'r broses o gyflwyno 12.5 awr o ofal plant a ariennir yr wythnos i bob plentyn dwy oed medden nhw. Awdurdodau lleol fydd yn darparu'r gofal plant.
Mae’r blaid yn dweud y bydd yr arian yn darparu 3,300 o leoedd ychwanegol i blant dwy oed, gan gynnig 12.5 awr o ofal plant yr wythnos.
Yn y cyfamser, mae’r weinyddiaeth yn dweud bod Wrecsam wedi ymuno â thri awdurdod arall i ddarparu gofal plant i bob plentyn dwy oed yn ei hardal.
Ar ôl ei gyflwyno'n llawn, cynnig gofal plant newydd Llywodraeth Cymru fydd y cynnig mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU, medden nhw.
Dywedodd Sioned Williams, Dirprwy Brif Weinidog Cymru bod y buddsoddiad “yn dangos ein bod yn cyflymu ein hymrwymiadau i deuluoedd Cymru”.
“Cymru sydd â'r costau gofal plant uchaf yn y DU ac rwy'n benderfynol o helpu teuluoedd ledled Cymru, gan gefnogi datblygiad plant ar yr un pryd,” meddai.
‘Holl wybodaeth’
Daw’r cyhoeddiad wrth i gyn Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford awgrymu y byddai Plaid Cymru yn ei chael hi’n anodd cyflawni’r addewidion yn eu maniffesto oherwydd y sefyllfa ariannol.
Dros y penwythnos, dywedodd Elin Jones fod y sefyllfa ariannol yn “fwy heriol” nag yr oedd hi wedi ei ddisgwyl.
Fe rybuddiodd am benderfyniadau “eithriadol o anodd” er mwyn ariannu ymrwymiadau’r maniffesto, sy’n cynnwys ehangu gofal plant fel un o brif bolisïau’r blaid.
Dywedodd Mark Drakeford fod Plaid wedi cael mynediad at “yr holl wybodaeth oedd ar gael”. Awgrymodd Mr Drakeford y byddai gweinidogion yn ei chael yn anodd cyflawni eu haddewidion maniffesto.
Dywedodd wrth BBC Cymru: “Ni ddylai Plaid Cymru gael ei synnu oherwydd mae pob ceiniog sydd gan Lywodraeth Cymru i’w gwario yn cael ei nodi’n gyhoeddus, ac mae pob ceiniog o gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru wedi eu nodi yn ei chyllideb.
“Roedd Plaid Cymru yn rhan o osod cyllideb 2026-27 ar ôl i gytundeb gael ei gyrraedd rhyngddi hi a Llafur Cymru, ac yn ystod y broses honno fe gafodd fynediad at yr holl wybodaeth oedd ar gael i Lywodraeth Cymru.
“Dydw i ddim yn synnu eu bod nhw’n gweld bod bod mewn llywodraeth yn fwy cymhleth na siarad amdani. O ystyried eu maniffesto, roedd Plaid Cymru bob amser yn mynd i weld bod cadw eu haddewidion yn anoddach na’u gwneud.
“Yr hyn na all fod yn syndod y tro hwn yw’r ffeithiau ariannol, oedd yn hysbys iawn iddyn nhw ac yn gyhoeddus.”