Elon Musk yw'r triliwnydd cyntaf erioed wrth i Space X lansio ar y marchnadoedd stoc

12/06/2026
Elon Musk

Elon Musk yw’r triliwnydd cyntaf erioed ar ôl i gyfranddaliadau ei gwmni SpaceX godi wrth ddechrau masnachu ar farchnad stoc Nasdaq ddydd Gwener.

Agorodd y cyfranddaliadau ar $150 yr un, 11% yn uwch na’r pris cynnig o $135.

Fe wnaeth y pris godi ymhellach i fwy na $160 yn ystod y masnachu cynnar, gan wthio gwerth SpaceX dros $2 triliwn ar un adeg.

Roedd y cwmni eisoes wedi codi $75 biliwn drwy werthu 555.6 miliwn o gyfranddaliadau cyn cael ei restru’n gyhoeddus, gan roi gwerth cychwynnol o bron i $1.8 triliwn arno.

Dyma’r ‘Initial Public Offering’, neu IPO, mwyaf erioed yn hanes y marchnadoedd stoc, gan basio restriad y cwmni olew Saudi Aramco yn 2019.

Mae’r cynnydd yng ngwerth SpaceX wedi gwthio gwerth cyfoeth personol Musk dros $1 triliwn.

Mae hefyd yn brif weithredwr Tesla ac yn berchennog X.

Ond fe all gwerth cyfranddaliadau SpaceX godi neu ostwng wrth i fasnachu barhau.

Mae rhai sylwebwyr ariannol wedi rhybuddio aelodau o’r cyhoedd sydd am fuddsoddi i aros i weld cyn rhoi eu harian i mewn i’r cwmni, gyda phryderon ei fod wedi cael ei orbrisio.

Dywedodd Susannah Streeter, prif strategaethydd buddsoddi yn Wealth Club: “Mae Elon Musk yn hoffi creu argraff fawr ym mhopeth mae’n ei wneud, ond efallai na fydd yn tanio’r marchnadoedd gyda thanwydd roced y tro hwn.

“Mae buddsoddwyr wedi prynu cyfran o’i freuddwydion mawr o ddominyddu’r gofod, er gwaethaf y risgiau sy’n gysylltiedig â’i weledigaeth.

“Mae uchelgeisiau SpaceX yn anferth ac o bosibl yn drawsnewidiol, ond maen nhw hefyd yn hynod gostus o ran cyfalaf ac yn dibynnu ar ddatblygiadau technolegol pellach a chymeradwyaeth reoleiddiol.

“Mae’r wythnosau a’r misoedd nesaf yn debygol o weld o weld y stoc yn codi a gostwng, rhywbeth sy’n digwydd yn aml ar ôl rhestru.”

Yn y cyfamser, mae cewri eraill y byd technoleg, AI OpenAI ac Anthropic, hefyd wedi datgelu cynlluniau i fynd yn gyhoeddus yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.