Marwolaethau merched Wimbledon: Dynes yn y llys
Mae dynes sydd wedi ei chyhuddo o ladd dwy ferch yn ystod gwrthdrawiad ar dir ysgol gynradd yn Wimbledon, Llundain wedi ymddangos mewn llys am y tro cyntaf.
Mae Claire Freemantle, 49 oed wedi ei chyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a chyhuddiad o achosi anafiadau difrifol, wedi'r digwyddiad ar dir ysgol The Study Prep School fis Gorffennaf 2023.
Bu farw'r disgyblion Nuria Sajjad a Selena Lau, y ddwy yn wyth oed wedi'r gwrthdrawiad, a ddigwyddodd adeg dathliad yn yr ysgol i nodi diwrnod olaf tymor yr haf.
Yn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mawrth, cafodd Claire Freemantle o ardal Edge Hill, Wimbledon ganiatâd i eistedd y tu ôl i'w chyfreithiwr yn hytrach na'r doc.
Cadarnhaodd ei henw ac ni chafodd gais i gyflwyno unrhyw ble.
Mae hi wedi ei chyhuddo o ladd Nuria a Selena, ac achosi anaf difrifol i fam Nuria, Smera Chohan a mam arall o'r enw Tamsyn Van De Vyver.
Cafodd mam arall a babi saith mis oed hefyd eu hanafu yn ogystal â dwy ferch wyth oed a merch saith oed.
Daeth cyhoeddiad fis Mai am y cyhuddiadau troseddol, ar ôl i deuluoedd Nuria a Selena feirniadu ymchwiliad Heddlu'r Met i'r gwrthdrawiad.
Fis Mehefin 2024, dywedodd Heddlu Scotland Yard fod gyrrwr y cerbyd wedi dioddef ffit epileptig ac na fyddai'n wynebu cyhuddiadau troseddol.
Ond cafodd y penderfyniad hwnnw ei ddad-wneud, ac fe ymddiheurodd Heddlu'r Met am y modd y gwnaethon nhw ddelio â'r digwyddiad yn y man cyntaf a'r "effaith ar y rhai sydd wedi dioddef."
Pan gafodd y cyhuddiadau eu cyhoeddi yn wreiddiol, dywedodd cyfreithwyr Claire Freemantle y byddai'n pledio'n ddieuog.
Gofynnodd Sallie Bennett-Jenkins KC, ar ran yr amddiffyniad a fyddai modd i Claire Freemantle eistedd yng nghrombil y llys ei hun yn hytrach na'r doc, oherwydd pryderon am ei hiechyd.
Cafodd yr achos ei gyfeirio i Lys yr Old Bailey ar gyfer gwrandawiad ar 14 Gorffennaf.
Cafodd Claire Freemantle ei rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod.